Rydym wedi bod yn cynnal y gymuned Ymchwil Defnyddwyr yng Nghymru am 18 mis nawr ac ym mis Rhagfyr, fe wnaethon ni gynnal ein trydydd digwyddiad wyneb yn wyneb.

Roedd ein haelodau yn awyddus i wybod pa ymchwil arall a gynhelir ledled Cymru ac a oes cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chydweithio. Felly, gwnaethom ddefnyddio'r digwyddiad hwn fel cyfle i ddathlu'r holl ymchwil wych sy'n digwydd yn y sector cyhoeddus Cymru ac i glywed straeon sy'n dangos aeddfedrwydd digidol cynyddol ein cenedl.

Yn ymuno a ni yn y digwyddiad roedd 26 ymchwilydd o sefydliadau yn y sector iechyd, addysg, llywodraeth y DU, cyrff a noddir ac asiantaethau digidol. 

Gabi Mitchem-Evans and Tom Brame, CDPS User Researchers present to the User Research Wales Community of Practice

Trefn y diwrnod

Fe wnaethon ni ofyn i aelodau lenwi templed poster i rannu rhai manylion am eu prosiectau ymchwil diweddar a myfyrio ar eu llwyddiannau, heriau ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Yna gwnaethom ofyn iddynt arddangos y posteri fel y gallai pawb weld yr holl waith sy'n cael ei wneud yng Nghymru.

A poster from the research gallery wall
More posters from the research gallery wall

Hefyd, gwnaethon ni ofyn iddynt lenwi 'cerdyn ymrwymiad‘ ar ddechrau'r digwyddiad a gofyn i bobl fyfyrio a nodi beth oeddent am ei gael o'r diwrnod. 
A commitment card completed by one of the community members

Fe wnaethon ni rannu'r aelodau yn grwpiau cymysg i siarad am y cyfleoedd a'r heriau sy'n codi yn sgil eu prosiectau. Gwnaethom rannu'r aelodau yn fwriadol fel bod pobl o wahanol sefydliadau a sectorau yn rhannu dysgu y tu hwnt i'w rhwydweithiau arferol. Dechreuodd themâu fel gwaith amlddisgyblaethol ac ymchwil ddim yn cael ei barchu fel y dylai ddeillio o'r sgyrsiau hyn a phenderfynwyd y byddent yn bynciau a fyddai'n cael sylw yn y trafodaethau grŵp manylach.

Breakout group of researchers talking about their projects

Rhannwyd yr aelodau yn grwpiau newydd ar gyfer y trafodaethau hyn, gan gael y cyfle i ddewis y pwnc yr hoffent ei drafod. Gwnaethom drin y gweithgaredd hwn fel hacathon bach ar gyfer pob un o'r themâu i weld pa syniadau oedd gan ein haelodau ynghylch cydweithio ar ddatrys materion. 

Dyma oedd gan ein haelodau i'w ddweud: 

Roeddem am sicrhau bod pobl yn cael gwerth allan o'r digwyddiad, felly gwnaethom gloi trwy ofyn beth yr oeddent wedi'i ddysgu, pa gysylltiadau yr oeddent wedi'u gwneud a'r hyn yr oeddent yn bwriadu ei wneud nesaf gyda'u gwybodaeth newydd. 

Cawsom ymatebion calonogol i'r cwestiynau hyn a wnaeth ein helpu ni i ddeall gwerth y digwyddiad a chysylltu fel cymuned mewn digwyddiad ar gyfer ein haelodau.

Dyma rai o fyfyrdodau'r aelodau a rhai pethau y gwnaethant ei ddysgu:

  • cynghorion ac arfer da i gynnal ymchwil defnyddwyr gyda siaradwyr Cymraeg
  • mae ymchwilwyr defnyddwyr yn wynebu materion tebyg ar draws gwahanol gylchoedd, ma'n effeithio ar bawb
  • clywed profiadau pobl eraill a chydweithio ar atebion yn hynod ddefnyddiol
  • dulliau newydd o gyfathrebu â defnyddwyr terfynol
  • dylid dathlu'r ffaith bod llawer mwy o ymchwil yn cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru na'r hyn a feddyliwyd yn wreiddiol 
  • mae'n bwysig cynnwys rhanddeiliaid yng nghamau cynnar unrhyw ddarn o waith
  • mae arwyr Cymreig yn bodoli!
  • mae ap GIG Cymru yn fyw!
  • mae llawer o help ar gael gan y gymuned
  • sylweddoli bod modd trosglwyddo profiad diogelu o rôl flaenorol

Aelodau yn gwneud cysylltiadau newydd:

  • cwrdd â phobl y maent yn eu hadnabod eisoes
  • cwrdd â phobl newydd mewn gwahanol sefydliadau
  • ymdeimlad o berthyn gan fod adrannau/sefydliadau llywodraeth eraill yn wynebu'r un heriau
  • cysylltu â phobl sy'n gwneud gwaith ymchwil tebyg
  • cwrdd â phobl wyneb yn wyneb
  • cwrdd â phobl newydd sy'n cynnal ymchwil i ddefnyddwyr yn y Gymraeg
  • dysgu ffyrdd gwell o gynnal gwaith dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • y potensial ar gyfer llwybr gyrfa newydd

Y camau nesaf y bydd yr aelodau yn eu cymryd:

  • dysgu sut i ychwanegu cyfrifoldeb eirioli at rolau mewnol ac ymgymryd â thasgau ymchwil
  • rhoi adborth i ymchwilwyr eraill yn eu sefydliad am yr hyn y maent wedi'i ddysgu
  • rhannu canfyddiadau yn eu cylchlythyr personol
  • rhoi'r hyn y maen nhw wedi'i ddysgu ar waith
  • ymuno a rhagor o'n sesiynau
  • dysgu pynciau newydd, e.e. ymchwil sensitif, cwmpasu, sicrhau bod y bobl cywir yn cynnal ymchwil defnyddwyr
  • creu rhestr o adnoddau defnyddiol a'i rannu gyda'r gymuned
  • ymuno â grŵp LinkedIn cymunedol
  • dysgu am sut i ymgorffori mwy ar y Gymraeg
  • parhau i gyfrannu at y gymuned

Dyma oedd gan rai o'n haelodau i'w ddweud: 

Os ydych chi'n gweithio mewn unrhyw adran ddigidol sy'n cysylltu ag ymchwil defnyddwyr [...] mae'r gymuned yn rhagorol o ran rhannu profiadau ac arfer da a rhoi cyngor os oes gennych brosiectau sydd angen eu symud yn eu blaenau.  Efallai nad oes gennych ddigon o hyder yn y prosiect rydych yn gweithio arno, gallwch bob amser gael help gan rywun mewn cymuned o'r fath hon.

Os ydych chi'n gweithio mewn unrhyw adran ddigidol sy'n cysylltu ag ymchwil defnyddwyr [...] mae'r gymuned yn rhagorol o ran rhannu profiadau ac arfer da a rhoi cyngor os oes gennych brosiectau sydd angen eu symud yn eu blaenau.  Efallai nad oes gennych ddigon o hyder yn y prosiect rydych yn gweithio arno, gallwch bob amser gael help gan rywun mewn cymuned o'r fath hon.

“[...] Gan nad yw'r gymuned ymchwil mor fawr â hynny yng Nghymru a dyw'r sylfaen sydd gan leoliadau eraill ddim yr un fath, mae'n ddefnyddiol cael man neu bwynt cyswllt lle gallwn ddod ynghyd i drafod ymchwil defnyddwyr.”

– Gruffydd Weston, Uwch Ymchwilydd Defnyddwyr, Iechyd Cyhoeddus Cymru

“Diolch am y gwahoddiad i'ch digwyddiad. Dyma fy nhro cyntaf.  Gwych yw gweld menter o'r fath yn bodoli yng Nghymru. Roedd yn hyfryd cwrdd â thîm CDPS a'r aelodau eraill. Dyma ddigwyddiad sydd a strwythur da iddo a gynhelir mewn amgylchedd hamddenol.”

- Filipa Costa, Ymchwilydd, Healthia

Beth nesaf?

Rydym wrthi'n trefnu ein sesiynau cymunedol nesaf ac yn ystyried sut i ymgorffori'r syniadau a'r materion a drafodwyd. Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaethom rannu unrhyw adnoddau y gofynnwyd amdanynt gyda'r gymuned.

Bydd Tom Brame, ein Hymchwilydd Defnyddwyr, yn trafod ei bersbectif personol ef o'r digwyddiad gan gynnwys yr hyn y gwnaeth ein haelodau ei ddysgu a'r ymchwil y maent wedi bod yn ei wneud.

Os hoffech ymuno â'r gymuned, rydym yn cwrdd yn ar-lein wythnos olaf pob mis ac yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb pob dwy flynedd. Gallwch gofrestru ar ein gwefan