
Mae Grŵp Arweinyddiaeth Deallusrwydd Artiffisial Cymru yn dod â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu diweddariadau, adnabod risgiau a chyfleoedd, a chefnogi ei gilydd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol sy'n canolbwyntio ar bobl.
Ers ei lansio flwyddyn yn ôl, mae'r grŵp llywio gwreiddiol wedi tyfu i fod yn fforwm arwain fywiog. Mae'n le gall aelodau rannu achosion defnydd newydd, adolygu canllawiau a datblygiadau polisi, ac yn gweithio gyda'i gilydd i lenwi bylchau allweddol i Gymru - popeth o ganllawiau defnydd ymarferol i fynd i'r afael â'n heriau llywodraethu unigryw.
Rydym yn falch iawn o groesawu Matt Lewis, Prif Swyddog Gweithredu, Gwasanaeth Rhannu Adnoddau Cymru, yn gadeirydd newydd ar y grŵp. Mae gan Matt arbenigedd technegol sylweddol, meddylfryd gwasanaeth cyhoeddus, ac ymagwedd gydweithredol sy'n cyd-fynd yn berffaith ag ethos y grŵp.
Gyda Matt wrth y llyw, bydd yn rhagorol gallu cadw'r momentwm i fynd a pharhau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf: helpu timau i ddefnyddio AI mewn ffordd ddiogel, dryloyw, ac mewn modd sy'n wirioneddol ddefnyddiol i bobl Cymru.
Ychwanegodd Matt: “Mae derbyn y gwahoddiad i fod yn Gadeirydd Grŵp Arweinyddiaeth Deallusrwydd Artiffisial Cymru yn bleser ac yn fraint i mi. Fel Prif Swyddog Gweithredu gwasanaeth a rennir, fy mwriad yw meithrin diwylliant o bwrpas a rennir, parch at ein gilydd a chyflawni ar y cyd a hynny mewn dull cydweithredol. Credaf y deillia gwir gydweithredu o ymddiriedaeth, tryloywder, bod yn ddewr ac ymrwymo i gyd-greu gwerth ar draws timau, adrannau a sefydliadau partner. Seilir y ffordd rwy'n gweithio ar y gred y daw'r canlyniadau gorau i'r amlwg pan ddaw safbwyntiau amrywiol ynghyd i ddatrys heriau cymhleth. Rwy'n ymdrechu i greu amgylcheddau lle anogir sgyrsiau agored, rhannu cyfrifoldebau, a sbarduno arloesedd a meddwl yn gynhwysol. Yn y pen draw, fy mwriad yw cadeirio'r grŵp mewn ffordd sy'n grymuso eraill, yn adeiladu systemau cydnerth a sicrhau canlyniadau ystyrlon i'r cymunedau a wasanaethwn."
"Mae hwn yn gyfle gwych i sbarduno arloesedd a harneisio potensial deallusrwydd artiffisial er budd ein cymunedau ac yn wir ein cenedl. Fy ngweledigaeth yw meithrin amgylchedd cydweithredol lle gallwn fanteisio ar arbenigeddau cyfunol ein haelodau a llywio'r heriau a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil AI. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein grŵp yn cyfrannu at ddatblygu arferion deallusrwydd artiffisial moesegol a chynaliadwy a fydd yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda phawb a chyda'n gilydd, cymryd camau pwrpasol."
"Rwy'n awyddus i'r grŵp fod y lle rydym yn troi ato am gyngor ac arweiniad, yn adnodd canolog y gallwn fanteisio arno a chyfrannu ato. Hefyd, rwyf am i'r grŵp ein hysgogi i roi prosiectau effeithiol ar waith sy'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a hynny mewn dull cydweithredol. Trwy fanteisio ar setiau sgiliau amrywiol ein haelodau, gallwn ddatblygu atebion sydd nid yn unig yn hyrwyddo maes deallusrwydd artiffisial ond hefyd yn creu buddiannau gwirioneddol i Gymru."
Eisiau archwilio sut i weithredu awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol, foesegol a diogel?