Yn ddiweddar, fe wnaethon ni gynnal cyfnod darganfod 12 wythnos gan weithio gyda thîm niwroamrywiaeth ac anableddau dysgu Llywodraeth Cymru i nodi sut y gallwn ddarparu mynediad cyflymach a haws at adnoddau yn ogystal â chymorth i bobl (a'u rhwydwaith cymorth) sy'n aros am atgyfeiriad neu asesiad niwroamrywiaeth.
Roedden ni am archwilio sut y gallen ni wneud darparu a chasglu gwybodaeth i gefnogi atgyfeirio ac asesu niwroamrywiaeth yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Gwnaethon ni nifer o argymhellion ac rydyn ni bellach wedi dechrau gneud rhywfaint o waith i gefnogi'r argymhelliad o ddefnyddio cynnyrch digidol i gasglu a storio gwybodaeth yn ystod y broses atgyfeirio.
Yr hyn a olygwn wrth gynnyrch digidol
Cynnyrch sy'n:
- cael ei ganoli a'i ddefnyddio gan bob gwasanaeth niwroamrywiaeth yn genedlaethol
- caniatáu i fwy nag un hysbyswr gael eu gwahodd i fewngofnodi i declyn ar-lein lle gofynnir iddyn nhw lenwi un neu fwy o ffurflenni i ddarparu gwybodaeth ragnodedig am unigolyn
- atal hysbyswyr rhag gallu cyflwyno'r ffurflenni nes bod yr holl wybodaeth orfodol wedi'i darparu
- sicrhau bod y wybodaeth ar gael i'r tîm sy'n gofyn amdani mewn fformat digidol – yn ddelfrydol, mae'r cynnyrch yn cyfuno ac yn cyflwyno'r wybodaeth a gesglir yn awtomatig yn y fformat mwyaf defnyddiol i'r gweithiwr proffesiynol gyflawni'r dasg y mae angen yr wybodaeth arnynt ar ei chyfer, gan leihau ymdrech weinyddol
Mae yna lawer o nodweddion ychwanegol a fyddai'n gwella gwerth y cynnyrch hwn ymhellach.
Tystiolaeth i gefnogi'r argymhelliad hwn
Yn ystod y cyfnod darganfod, fe gasglon ni lawer o dystiolaeth i gefnogi'r argymhelliad hwn.
Mae llawer o weithwyr proffesiynol y siaradon ni â nhw wedi gwneud, neu'n ystyried gwneud, eu fersiynau eu hunain gan ddefnyddio'r offer digidol sydd ar gael iddynt, fel Microsoft neu Google Forms. Dywedant fod hyn yn helpu rhywfaint gydag effeithlonrwydd a rhwyddineb defnydd ond dim ond ffracsiwn o'r buddion y gallai cynnyrch pwrpasol eu darparu.
Mae cynnyrch casglu gwybodaeth ddigidol yn safonol yn y sector masnachol, lle mae ffocws cryf ar fanteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd a darparu profiad da i ddefnyddwyr.
Mae oedi a chylchoedd yn ôl ac ymlaen i gasglu setiau cyflawn o wybodaeth yn gyffredin, gan wastraffu amser gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr. Byddai hyn yn cael ei leihau'n fawr o ddefnyddio system ddigidol.
Mae defnyddwyr yn cwyno eu bod yn gorfod darparu'r un wybodaeth droeon, a dywedodd gweithwyr proffesiynol fod hyn yn broblem hefyd. Gallai sefydlu un system i bawb, lle gall yr holl weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud ag achos weld yr wybodaeth a gasglwyd, ddileu hyn.
“Rwy'n credu y byddai platfform digidol yn anhygoel... Rwyf bob amser wedi teimlo bod niwroamrywiaeth gymaint mwy am gydlynu'r holl wybodaeth honno ar yr adeg iawn. Ac mae'n debyg mai dyna'r allwedd i wneud i'r broses hon weithio. Byddai cael yr holl wybodaeth honno ar yr un pryd sy'n weladwy i bawb ar system gyfrifiadurol yn wefreiddiol.”
Mae cydlynu, dosbarthu a chadw golwg ar gasglu gwybodaeth gan fwy nag un hysbyswr ar gyfer mwy nag un unigolion yn cymryd llawer o amser ac yn dueddol o gamgymeriadau. Gallai cynnyrch digidol awtomeiddio llawer o wybodaeth a dangos cynnydd pob achos.
Mae defnyddwyr angen gwirio cynnydd eu hachos ond mae’r gwasanaeth yn methu darparu hynny. Mae hyn yn creu galw ychwanegol ar y gwasanaeth. Gallai cynnyrch digidol eu hysbysu'n awtomatig.
Mae'r cyfnodau hir o amser sy'n gysylltiedig â llwybrau niwroamrywiaeth yn golygu y gall sefyllfaoedd newid yn sylweddol rhwng cyhoeddi holiaduron. Byddai system ddigidol yn ddefnyddiol iawn i gefnogi diweddariadau mwy rheolaidd gan hysbyswyr.
Gall cynnyrch digidol gynnig ystod ehangach o opsiynau hygyrchedd i gefnogi anghenion amrywiol, sy'n arbennig o bwysig yn y maes hwn.
Ar hyn o bryd mae gweithwyr proffesiynol yn treulio llawer iawn o amser yn llunio cronolegau neu'n torri a gludo gwybodaeth o sawl ffynhonnell er mwyn llunio adroddiadau. Gallai cynnyrch digidol gasglu'r wybodaeth yn awtomatig a'i thrawsnewid i'r fformat gorau i gefnogi'r gweithwyr proffesiynol i wneud eu gwaith.
Cynhyrchion a galluoedd digidol presennol
Dros y 5 wythnos nesaf byddwn yn archwilio a phrofi atebion posibl a fyddai'n diwallu anghenion defnyddwyr a gweithwyr proffesiynol. Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i edrych ar gynhyrchion posibl heb unrhyw ymrwymiad nes ein bod yn hyderus bod yr ateb gorau yn bodloni'r meini prawf canlynol:
- Safon Gwasanaethau Digidol Cymru
- anghenion y defnyddiwr
- anghenion y partner busnes
- arfer UX gorau
- ystyriaethau wrth ddylunio ar gyfer cynulleidfaoedd niwroamrywiol
- canlyniadau targed y gwasanaeth
Os hoffech wybod mwy am y gwaith hwn, cysylltwch â'r Rheolwr Cyflawni, Poppy Evans – poppy.evans@digitalpublicservices.gov.wales