17 Chwefror 2023

Shwmae! Josh ydw i, y dylunydd gweledol yma’n Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Rwy’n rhan o’r tîm cyfathrebu ac ar hyn o bryd rwy’n arwain prosiect gyda’r nod o adnewyddu ein hunaniaeth brand sefydliadol. 

Trwy gydol deng mlynedd fy ngyrfa, rwyf wedi dylunio brandiau ar gyfer cleientiaid ledled y DU, Ewrop, ac UDA; sy’n rhychwantu’r sectorau preifat, cyhoeddus, a’r trydydd sector, gan gynnwys sefydliadau mawr a bach. Dyma fy mhrofiad cyntaf yn rhedeg prosiect adnewyddu brand o safbwynt mewnol, felly rwy’n hynod gyffrous! 

Pam ydym ni’n adnewyddu’r brand?

Sefydlwyd Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn 2020 ac roedd yn cynnwys contractwyr dros dro yn bennaf am y 12 mis cyntaf. 

Yn ystod yr amser hwnnw, mae ein nodau wedi’u cadarnhau, rydym wedi penodi prif swyddogion gweithredol newydd, bwrdd newydd, a dwsinau o aelodau staff parhaol ar draws pob tîm. Dydyn ni ddim yr un sefydliad ag yr oeddem pan sefydlwyd CDPS. 

Trwy gyflogi mwy o bobl i weithio yma’n CDPS, mae’n golygu ein bod yn siarad â mwy o sefydliadau ledled Cymru, yn ogystal â gweithio gyda nhw. Yn ei dro, mae hyn yn gofyn am hunaniaeth fwy addysgiadol, atyniadol, a hyblyg. Mae angen i’r sector cyhoeddus wybod pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, a rhaid bod cwmpas a graddfa’r ffordd y bydd Cymru’n bodloni Safonau Gwasanaeth Digidol y wlad, yn eu cyffroi.  

Beth mae adnewyddu brand yn ei olygu? 

Mae’r broses ddylunio yn cynnwys ychydig o gamau: 

  • Ymchwil 
    • Gweithdai dylunio brand 
    • Dadansoddiad sector a ‘chystadleuydd’ 
    • Archwilio cynnwys a dylunio 
  • Dylunio 
    • Sbrintiau dyluniad iteraidd gydag adolygiadau 
    • Profi cynnwys a dylunio 
    • Adeiladu hunaniaeth 
  • Adleoli 
    • Cadarnhau lansiad cychwynnol gyda chynhyrchion lleiaf hyfyw 
    • Dylunio asedau brand 
    • Cyhoeddi canllawiau brand hyblyg 

Pwy sydd wedi cymryd rhan yn yr adnewyddu brand? 

Mae gwneud ymchwil defnyddwyr yn angenrheidiol wrth adeiladu a dylunio brand cryf, yn union fel unrhyw brosiect digidol da.  

Roedd angen i ni glywed gan staff CDPS, ein cynulleidfa, rhanddeiliaid, a’n bwrdd.  

Buom hefyd yn casglu mewnwelediadau trwy weithdai brand. Rhannwyd y rhain yn ddau fath: defnyddwyr mewnol a defnyddwyr allanol. 

Mae’r defnyddwyr mewnol yn cynnwys unrhyw staff neu gontractwyr CDPS, gan gynnwys ein uwch dîm arwain.  

Pobl y sector cyhoeddus yw’r defnyddwyr allanol; staff sefydliadau partner (blaenorol neu gyfredol), cynghorwyr lleol ac yn y blaen, gyda chymysgedd o bobl oedd yn gwybod am CDPS a’r rhai oedd ddim. 

Cynnal gweithdy brand 

Buom yn cynnal 9 gweithdy fwy neu lai gan ddefnyddio Microsoft Teams a Mural. Buom hefyd yn cynnal un gweithdy wyneb yn wyneb gyda bwrdd CDPS.

Yn y gweithdai hyn, gwnaethom ofyn cwestiynau penagored, gyda phob un cwestiwn yn chwilio am atebion goddrychol, ansoddol.  

Roedd rhai o’r cwestiynau’n amrywio rhwng mynychwyr mewnol ac allanol ond roeddent ynghylch yr un themâu. 

Dyma enghreifftiau o gwestiynau i’w gofyn mewn gweithdy brand: 

  • Pwy ydych chi’n teimlo yw cynulleidfaoedd hollbwysig CDPS? Pam? 
  • Sut fyddech chi’n disgrifio CDPS i berthynas? 
  • Beth sy’n eich cyffroi neu’n eich ysbrydoli am y syniad o newid gwasanaethau cyhoeddus? 
  • Beth sy’n peri ofn neu eich cyfyngu ynghylch newid gwasanaethau cyhoeddus? 
  • Pe bai popeth yn mynd yn berffaith, lle fyddech chi eisiau i CDPS fod mewn 5 mlynedd? A 10 mlynedd? 

Roedd y gweithdai brand tua 60-75 munud o hyd, ni wnaethom aros ar unrhyw un cwestiwn yn hirach nag 8 munud. 

Fel hwyluswyr, rhaid inni beidio ag arwain mynychwyr i unrhyw gyfeiriad, ond fel arfer mae angen eu hannog i gloddio eu hymatebion ychydig yn ddyfnach. Mae’n bwysig dod o hyd i gydbwysedd. 

Er enghraifft, efallai y byddaf yn gofyn cwestiwn am sut y byddai rhywun yn esbonio CDPS i berthynas, ac efallai y byddan nhw’n ateb “maen nhw’n helpu sefydliadau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau digidol”. Ond byddai angen esbonio hyn ychydig yn fwy: mae diffiniad o wasanaethau digidol yn beth anodd, felly sut fyddai hynny’n cael ei esbonio? Pa wasanaethau rydych chi’n eu golygu? A phwy mewn sefydliadau cyhoeddus sydd angen help? 

Gall hyn oll ein helpu i feddwl am sut mae CDPS yn gosod ei hun, y math o iaith a naws a ddefnyddiwn mewn cyfathrebiadau, a’r delweddau a fydd yn cynorthwyo’r ymagwedd honno. 

Camau nesaf 

Nawr fy mod wedi cynnal y gweithdai a chasglu digon o fewnwelediad, byddaf yn casglu’r ymatebion ac yn tynnu sylw at themâu cyson neu dueddiadau sy’n dod i’r amlwg mewn adroddiad brand.  

Gan ddefnyddio’r adroddiad hwnnw a’r archwiliad cynnwys (dadansoddiad o’n mathau presennol o gynnwys, asedau brand, cynulleidfaoedd, llwyfannau, a phwyntiau cyffwrdd) byddaf wedyn yn dechrau dylunio cysyniadau ar gyfer hunaniaeth brand wedi’i hadnewyddu, gan eu profi gyda staff a phartneriaid CDPS, ac ailadrodd hyd nes bod y lleiafswm cynnyrch hyfyw yn dod i’r amlwg. 

Byddwn eisiau eich adborth yn agosach at lansiad adnewyddu’r brand! Os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus ar unrhyw lefel, ac yn dymuno bod yn rhan o’r adborth, e-bostiwch josh.rousen@digitalpublicservices.gov.wales.