27 Gorffennaf 2021
Mae’n bleser gennyf ysgrifennu fy mhostiad blog cyntaf fel Cadeirydd newydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS).
I mi, mae’r term “digidol” yn cynrychioli llawer mwy na thechnoleg a chyfrifiaduron. Mae fy niddordeb mewn gweddnewid digidol yn deillio o’m cysylltiad cynharach â chyflawni prosiectau technoleg strategol yn y sector gweithgynhyrchu, ar raddfa fyd-eang. Yn fy mhrofiad i, rydyn ni’n aml yn canolbwyntio ar y dechnoleg ei hun, oherwydd ei bod yn newydd sbon, ac yn aml yn gymhleth, ond busnes pobl yw gweddnewid digidol.
Gwersi o’r sector gweithgynhyrchu
Rwy’n aml yn meddwl am y robot ar y cyd (“cyd-fot”) cyntaf yr helpais i’w gyflwyno ar linell gydosod gweithgynhyrchu. Roedd yn adeg bryderus i lawer o’r staff a oedd wedi tybio, yn ddealladwy, y byddai’r robot yn eu disodli. I’r peirianwyr, a frwydrodd gyda chymhlethdod technegol a gwrthwynebiad gan y gweithlu, roedd y prosiect yn teimlo fel gorchwyl anodd iawn. Dechreuodd sïon “fydd e’ byth yn gweithio” ledaenu drwy’r gweithlu.
Tua hanner ffordd drwy’r prosiect, fe sylweddolon ni ein bod wedi colli cyfle. Yn lle gorfodi technoleg newydd ar weithlu profiadol, fe ddylem ni eu cynnwys yn y broses ddatblygu, gan ymgorffori eu hanghenion a’u profiad yn y dyluniad.
Fe symudon ni’r cyd-fot yn syth i lawr y ffatri a pharhau â’r broses ddatblygu ym mhresenoldeb yr aelodau staff hyn, a wahoddwyd i gymryd rhan a gofyn cwestiynau. Yn ein tro, fe gawson ni adborth craff a’n helpodd i fireinio’r cyd-fot ar gyfer ei rôl newydd.
Cyflwynwyd rhaglen hyfforddiant sylfaenol i’r holl staff er mwyn iddyn nhw ddysgu sut i weithio gyda’u cymar digidol newydd. Gan feddwl o flaen llaw am ofynion cynnal a chadw ac uwchraddio, fe greon ni raglen uwchsgilio a oedd yn darparu llwybrau dilyniant newydd i unrhyw aelodau staff a oedd eisiau bod yn dechnegwyr a pheirianwyr.
O fewn ychydig wythnosau o’i weithredu, daeth y cyd-fot i’w adnabod yn annwyl fel ‘Eric’. Roedd y berthynas rhwng y peirianwyr a’r staff gweithredol wedi goroesi’r prosiect gweddnewid, gan gydweithio i wella’r systemau gwaith newydd yn barhaus.
Mae’r stori yma wastad yn fy atgoffa bod technoleg yn gallu bod yn alluogwr gwych ar gyfer perthnasoedd dynol, creadigrwydd, a chydweithio. Y neges allweddol yw mai pobl yw’ch ased mwyaf, yn enwedig o ran gweddnewid digidol.
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru
Sefydlwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ychydig dros flwyddyn yn ôl. Ers hynny, mae’r Ganolfan wedi cwblhau ei cham Alffa yn llwyddiannus, a oedd yn cynnwys cyflwyno ei sgwad ddigidol gyntaf, gweithio mewn partneriaeth â thri awdurdod lleol, sesiynau Cyflwyniad i Ddigidol i fwy na 500 o arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru, sesiynau rhannu gwybodaeth misol a chreu cymunedau ymarfer, yr oedd y cyntaf ohonynt yn ymwneud â chreu gwasanaethau dwyieithog. Fe wnaeth cyhoeddi’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ym mis Mawrth 2021 roi hwb pellach i barhau â gwaith y Ganolfan a’i ymestyn, sydd bellach wedi symud i’w gam Beta.
Yn ystod y deuddeg mis nesaf, bydd y Ganolfan yn cryfhau ei darpariaeth trwy barhau â’i sgwad gyntaf sy’n edrych ar gael mynediad at ddrws blaen gofal cymdeithasol i oedolion a gwaith cyflawni cyffrous arall a fydd yn dangos gwerth dylunio gwasanaethau a arweinir gan y defnyddiwr mewn ffordd ystwyth. Yn ogystal, bydd y Ganolfan yn cydlynu rhaglen sgiliau a gallu, a fydd yn sicrhau bod gennym y sgiliau a’r gallu digidol iawn yn y sector cyhoeddus a, chan weithio gydag addysg uwch, Prifysgolion a sectorau eraill, yn creu llif o dalent ddigidol yng Nghymru. Bydd pwyslais ar ddatblygu safonau yn cefnogi’r broses o fabwysiadu digidol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sydd, o’m profiad i, yn agwedd hanfodol ar weddnewid digidol sy’n cael ei hanwybyddu’n aml.
A minnau’n Gymraes falch, sy’n byw yng nghefn gwlad hardd Cymru, rwy’n gyffrous ynglŷn â’r gwaith sy’n mynd rhagddo i weddnewid ein gwasanaethau cyhoeddus – o’r drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ein cysylltu, i’r GIG sy’n gofalu amdanom, y gwasanaethau golau glas sy’n diogelu ein cymunedau, a phopeth yn y canol. Rwy’n beiriannydd systemau wrth fy ngwaith, felly ni allaf ond ddychmygu profiad di-dor i bawb sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ym mhob cymuned yng Nghymru, wedi’i ategu gan seilwaith digidol cysylltiedig.
Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, a’n staff yn CDPS i drosi’r Strategaeth Ddigidol yn rhaglen waith sy’n cyflawni’r chwe chenhadaeth allweddol: gwasanaethau, cynhwysiant, sgiliau, economi, cysylltedd, a chydweithredu. Rwy’n wirioneddol obeithiol am effaith yr agenda gweddnewid digidol hon, a gwaith y Ganolfan, ar bobl Cymru.
Jessica Leigh Jones MBE
Cadeirydd - Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Twitter: @jessleighjones1