Trosolwg
Mae ymgorffori dwyieithrwydd yn eich ymchwil yn allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau llwyddiannus yn Gymraeg a Saesneg.
Mae ymchwilio gyda defnyddwyr Cymraeg yn eich helpu i:
- gynnwys defnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg
- deall eu profiadau yn well
- deall sut maen nhw’n rhyngweithio â gwasanaethau
- dylunio a darparu gwasanaethau sy'n bodloni eu hanghenion
- bodloni Safonau’r Gymraeg
Mae ystyried y Gymraeg o'r dechrau yn atal problemau yn y dyfodol pan fydd gwahaniaethau ieithyddol yn effeithio ar eich gwasanaeth, gan arbed amser ac ymdrech i chi.
Fel maes sy'n tyfu ac yn esblygu yng Nghymru, dyma le cyffrous i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd o weithio a chydweithio, a datblygu arfer da ac arweiniad gyda'n gilydd.
Dysgwch am:
Ymchwilio gyda defnyddwyr Cymraeg
Dylai defnyddwyr Cymraeg allu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.
Efallai nad yw’n bosib ar hyn o bryd i bob tîm a sefydliad gael ymchwilwyr ac ymarferwyr dylunio eraill sy’n gwbl hyfedr yn y Gymraeg, ond mae rhywfaint o ymchwil bob amser yn well na dim ymchwil.
Mae’n bwysig:
- dod o hyd i ffyrdd o wneud ymchwil defnyddwyr gyda defnyddwyr Cymraeg
- ymgorffori dwyieithrwydd o'r dechrau a thrwy gydol cylch bywyd y gwasanaeth cyfan
- datblygu’r gallu i wneud ymchwil defnyddwyr yn llwyr yn Gymraeg yn y dyfodol
Ystyriwch sut y gallwch chi ymgorffori'r Gymraeg yn eich ymchwil gymaint â phosibl. Dylech gynnwys amser ychwanegol yn eich cynlluniau cyflawni, a sicrhau bod gennych y sgiliau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Mae pob aelod o'r tîm yn gyfrifol am eirioli dros y Gymraeg a'i defnyddwyr, nid dim ond yr aelodau hynny o'r tîm sy’n medru’r Gymraeg.
Deall defnyddwyr Cymraeg
Nid oes unrhyw ddefnyddiwr Cymraeg safonol. Mae cymhwysedd ieithyddol yn gymhleth ac yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys hyder.
Rydyn ni’n defnyddio ‘defnyddiwr iaith’ yn lle ‘siaradwyr iaith’ oherwydd ei fod yn cynnwys holl ddefnyddwyr yr iaith yng nghyd-destun cynhyrchion a gwasanaethau, waeth beth fo'u cymhwysedd.
Gall defnyddiwr fod yn siarad Cymraeg rhugl, ond:
- bod yn well ganddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau yn Saesneg
- eu bod yn ei chael hi'n anodd deall yr iaith y mae gwasanaethau Cymraeg yn ddefnyddio
- eu bod nhw'n anabl neu'n defnyddio technoleg gynorthwyol
- eu bod nhw'n defnyddio gwasanaethau'n ddwyieithog, gan newid ieithoedd drwy gydol eu taith
Bydd rhai defnyddwyr yn disgwyl lefel mwy soffistiedig o Gymraeg tra bydd eraill o bosib yn defnyddio cymysgedd o Gymraeg a Saesneg (Wenglish) yn eu bywydau pob dydd.
Efallai na fydd defnyddiwr Cymraeg yn siarad Cymraeg rhugl ond eu bod yn deall eraill yn siarad yr iaith.
Neu efallai nad ydyn nhw’n siarad nac yn deall sgwrs yn Gymraeg, ond eu bod yn deall Cymraeg clir ysgrifenedig.
Efallai y byddai'n well ganddyn nhw siarad Cymraeg gyda rhywun yn y llinell gymorth, ond derbyn negeseuon ebost neu neges destun yn ddwyieithog a defnyddio eich gwefan yn Saesneg.