Trosolwg

Mae'r egwyddorion hyn yn ddatganiadau all:

  • weithredu fel cwmpawd ar gyfer eich tîm
  • fframio a llywio penderfyniadau ymchwil
  • cefnogi cysondeb wrth wneud penderfyniadau ar draws eich sefydliad

1. Gwneud eich ymchwil yn ddiogel ac yn foesegol

Rhaid i chi bob amser eirioli dros eich defnyddwyr, eu cynrychioli yn ffyddlon a diogelu eu lles – yn ogystal â lles yr ymchwilwyr.

Dylech bob amser ystyried goblygiadau moesegol a diogelwch eich ymchwil. Yn enwedig os ydych chi’n:

  • archwilio ffyrdd o weithio neu ddulliau newydd
  • cynnwys pobl agored i niwed neu bynciau sy'n sensitif yn emosiynol

Dim ond ymchwilwyr defnyddwyr hyfforddedig a phrofiadol gyda'r gefnogaeth gywir ddylai gynnal ymchwil sensitif a chymhleth.

Dylech:

  • ystyried yr effaith ar gyfranogwyr, aelodau'r tîm a chi eich hun
  • cynllunio sut i leddfu risgiau a straen i ddiogelu pawb sy'n gysylltiedig â’r gwaith
  • cydnabod rhagfarnau posibl a allai ddylanwadu ar eich ymchwil, a sut i'w hatal
  • cael caniatâd gwybodus gan gyfranogwyr
  • rheoli data cyfranogwr yn gyfrifol

Dylech bob amser gadw at safonau a chanllawiau ymchwil sefydledig. Er enghraifft:

Dysgwch sut i ddeall eich defnyddwyr a'u hanghenion.

2. Blaenoriaethu hygyrchedd a chynhwysiant

Ceisiwch gynnwys pob math o ddefnyddwyr ac anelu at gynrychiolaeth amrywiol a realistig o'r dechrau. Mae hyn yn golygu cynnwys:

  • pobl anabl
  • grwpiau a chymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol
  • defnyddwyr technoleg gynorthwyol
  • rhai sydd ag anghenion mynediad gwahanol
  • rhai sydd â sgiliau digidol a thechnegol gwahanol
  • defnyddwyr Cymraeg
  • y rhai hynny nad yw Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw 

Efallai y bydd angen i chi hefyd gynnwys y bobl sy'n darparu'r gwasanaeth neu'n helpu eraill i gael mynediad ato.

Dysgwch gyda phwy i gynnal eich ymchwil.

Daliwch ati i recriwtio trwy’r amser, a bod yn rhagweithiol wrth gyrraedd cyfranogwyr. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi ymgysylltu â rhwydweithiau gwahanol a defnyddio gwahanol sianeli recriwtio.

Dysgwch am recriwtio cyfranogwyr ar gyfer eich ymchwil.

Ystyriwch sut y gallwch fod yn eithrio unrhyw ddefnyddwyr pan fyddwch yn:

  • cynllunio eich ymchwil
  • recriwtio cyfranogwyr
  • dewis lleoliadau

Efallai y bydd angen i chi addasu eich dulliau i'w hanghenion a'u dewisiadau er mwyn peidio ag eithrio defnyddwyr. Er enghraifft:

  • addasu eich arddull neu sianel gyfathrebu
  • addasu sut rydych chi'n cynnal eich sesiwn
  • addasu deunyddiau ymchwil
  • darparu cefnogaeth ychwanegol yn y sesiynau

Ystyriwch sut y gallwch chi roi rhywbeth yn ôl i'r bobl a'r cymunedau rydych chi'n ymchwilio iddynt. Er enghraifft, gallech wobrwyo cyfranogwyr am eu hamser, ond hefyd roi gwybod iddynt am yr effaith y maent yn ei chael.

Gallech gymell pobl o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan mewn ymchwil trwy eu gwobrwyo am eu hamser, eu hegni a'u harbenigedd. Mae'n gyffredin gwobrwyo cyfranogwyr gyda thalebau, ond ystyriwch:

  • moeseg defnyddio cymhellion
  • sut y gallant ddylanwadu ar eich ymchwil a'ch canfyddiadau
  • sut i osgoi cynnal ymchwil rhy drafodol

3. Canolbwyntio ar y pam, nid dim ond beth

Mae ymchwil defnyddiwr da yn eich helpu i ddeall y rhesymau a'r cymhellion sy’n sail i ymddygiad defnyddwyr.

Wrth gynllunio eich ymchwil:

  • byddwch yn glir am yr hyn y mae angen i chi ei ddysgu, eich nodau a'ch cwmpas
  • canolbwyntiwch ar ddeall y broblem yn gyntaf
  • rhowch flaenoriaeth i arsylwi’n wrthrychol yr hyn a wna defnyddwyr yn hytrach na gwrando ar eu barn
  • canolbwyntiwch ar yr hyn y mae defnyddwyr ei angen, nid yr hyn y maent yn dweud eu bod eisiau neu sy’n well ganddynt 
  • cydnabyddwch unrhyw dybiaethau personol, dewisiadau a rhagfarnau

Wrth gynnal ymchwil:

  • rhowch sylw i'r hyn y mae cyfranogwyr yn ei wneud a sut maen nhw'n teimlo
  • canolbwyntiwch ar sut maen nhw'n rhyngweithio â gwasanaethau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • arsylwch arnynt yn gwneud tasgau yn hytrach na gofyn iddynt eu trafod
  • ystyriwch syniadau ar gyfer datrysiadau fel rhywbeth i'w brofi a'i ddilysu

Mae hyn yn eich helpu i:

  • wneud penderfyniadau yn seiliedig ar anghenion ac ymddygiadau defnyddwyr go iawn
  • nodi’r rhan o’r broses sy’n achosi anhawster a meysydd y gellir eu gwella
  • dod o hyd i gyfleoedd i fodloni anghenion defnyddwyr yn well

Pan fyddwch yn cyfweld â defnyddwyr:

  • ystyriwch ffactorau a allai ddylanwadu ar ddewisiadau, megis normau cymdeithasol, rhagfarnau personol a chyd-destun
  • canolbwyntiwch ar brofiadau go iawn yn hytrach na sefyllfaoedd damcaniaethol
  • ystyriwch na fydd defnyddwyr bob amser yn ymwybodol o'u hymddygiad gwirioneddol neu heriau dyfnach

4. Ystyried y Gymraeg drwy gydol y broses

Fel cenedl ddwyieithog, rhaid i bob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru gael ei ddarparu'n gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn bodloni Safonau’r Gymraeg.

Ystyriwch y Gymraeg yn eich ymchwil o'r dechrau. Dylech chi:

  • osgoi gwneud rhagdybiaethau am y Gymraeg a'i defnyddwyr
  • peidio â gadael y gwaith cyfieithu nes diwedd y broses
  • profi eich gwasanaeth neu gynnyrch gyda defnyddwyr Cymraeg
  • dylunio'ch gwasanaeth yn ddwyieithog a chynnwys cyfieithwyr yn gynnar ac yn aml

O gynnwys y Gymraeg yn eich prosiect mor gynnar â phosibl gallwch atal problemau fyddai'n cymryd mwy o amser ac adnoddau i'w datrys yn y dyfodol.

Dysgwch am ymchwilio gyda defnyddwyr Cymraeg.

5. Mae ymchwil yn gamp i’r tîm cyfan

Rhannwch eich canfyddiadau er budd eraill ac osgoi dyblygu ymchwil sy'n bodoli eisoes.

Er bod ymchwilwyr defnyddwyr yn gyfrifol am gynhyrchu darlun eglur o’r canfyddiadau ymchwil, mae ymchwil defnyddwyr effeithiol yn ymdrech gydweithredol sy'n cynnwys y tîm cyfan.

Mae ymchwil defnyddiwr effeithiol iawn yn ystyried:

  • cyfeiriad strategol a chenhadaeth gwaith eich tîm
  • y polisi perthnasol
  • y cyfraniad y gall ei wneud i amcanion eich maes

Gweithiwch yn agos gyda phobl eraill a chynnwys gweddill eich tîm yn eich ymchwil. Bydd hyn yn eu helpu i:

  • weld a gwrando ar ddefnyddwyr go iawn sy’n rhyngweithio â'ch gwasanaeth
  • deall y rhwystrau a'r heriau y maen nhw’n eu hwynebu
  • dysgu am yr iaith, y geiriau a'r derminoleg y maen nhw'n eu defnyddio
  • meithrin empathi tuag at eich defnyddwyr, a meddwl a siarad amdanynt fel pobl go iawn sydd ag anghenion go iawn
  • gweithio gyda pholisïau a'u herio pan fo angen

I gynnwys eich tîm, gallwch:

  • ofyn am arweiniad a mewnbwn
  • gofyn am adborth ar eich prosesau a'ch gwaith
  • eu gwahodd i arsylwi a chymryd nodiadau mewn cyfweliadau neu brofion defnyddioldeb
  • gofyn am eu cymorth mewn sesiynau dadansoddi i gytuno ar ganfyddiadau a gweithredoedd

Gweithiwch yn agos gydag aelodau eraill o'r tîm fel y gallwch roi llais i’r defnyddwyr a sicrhau bod penderfyniadau'n seiliedig ar anghenion defnyddwyr. Er enghraifft, dywedwch wrth ddylunwyr yr hoffech gael eich cynnwys wrth weithio ar brototeipiau.

6. Gwneud ymchwil barhaus

Gall ymchwil defnyddwyr gymryd amser ac adnoddau, felly mae'n rhaid iddo fod ag angen defnyddiwr clir a budd cyhoeddus, ac osgoi dyblygu ymchwil sy'n bodoli eisoes.

Mae ymchwil barhaus drwy gydol cylch bywyd eich gwasanaeth neu'ch cynnyrch yn fwy effeithiol na chynnal astudiaethau mwy ar y dechrau a'r diwedd.

Gall hyd yn oed ychydig bach o ymchwil helpu i:

  • ddysgu yn gyflym beth sy'n gweithio i'ch defnyddwyr
  • nodi problemau’r gwasanaeth, a'r ffyrdd gorau i'w datrys
  • profi syniadau, cynnwys a nodweddion dylunio newydd
  • arbed amser trwy adeiladu'r hyn sydd ei angen ar eich defnyddwyr yn unig
  • parhau i fodloni anghenion defnyddwyr wrth iddynt newid ac wrth i rai newydd ddod i'r amlwg
  • gwella eich gwasanaeth yn rheolaidd

Gall hyn:

  • greu gwell penderfyniadau
  • lleihau ansicrwydd a lliniaru risgiau
  • annog diwylliant o ddysgu
  • hwyluso cynnydd cynyddol
  • addasu eich cynlluniau'n gynnar

Nid oes y fath beth ag ymchwil berffaith, ond mae rhywfaint o ymchwil bob amser yn well na dim.

Byddwch yn ymarferol ac yn bragmatig yn eich dull: dechreuwch yn fach ac adeiladu momentwm, gallu a dealltwriaeth dros amser yn eich tîm a'ch sefydliad.

Ystyriwch:

  • osod nodau ymchwil a chwmpas clir
  • y fethodoleg gywir ar gyfer eich anghenion a'ch cyd-destun
  • diffinio'r hyn sydd ei angen arnoch i allu symud i'r cam datblygu nesaf
  • symud yn gyflym i'r maes neu'r pwnc nesaf os ydych chi wedi’ch llethu gan wybodaeth
  • sut i fod yn ymwybodol ac yn agored am y cyfyngiadau ymchwil

Dysgwch am ddeall eich defnyddwyr a'u hanghenion.

7. Rhoi llwyfan i’ch canfyddiadau

Mae ymchwil defnyddwyr yn gamp tîm, o fewn eich sefydliad a gyda sefydliadau eraill ar draws y sector cyhoeddus.

Mae'n cymryd amser, ymrwymiad ac adnoddau, felly ni ddylech ddyblygu gwaith sydd eisoes yn bodoli, a dylai bod angen defnyddiwr clir a budd i’r cyhoedd.

Dewch o hyd i ffyrdd o agor a rhannu eich gwaith a'ch canfyddiadau gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys cynnal sesiynau dangos a dweud.

Mae rhannu eich ymchwil yn agored gydag eraill yn y sector cyhoeddus yn golygu eich bod yn:

  • eirioli ar gyfer ymchwil defnyddwyr, defnyddwyr a'u hanghenion
  • hyrwyddo gwell dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr
  • atal eraill rhag dyblygu ymchwil
  • lleihau'r risg o ragfarn a rhagdybiaethau na chant eu herio

Mae’n bwysig eich bod bob amser yn:

  • diogelu preifatrwydd y cyfranogwr
  • dileu unrhyw ddata personol neu sensitif
  • ystyried a yw'n addas i rannu gwybodaeth ac a oes angen caniatâd arnoch
  • ystyried sut mae rhannu gwybodaeth am fethiannau gwasanaeth, gan y gallant gyfeirio at waith ac enw da pobl eraill