Trosolwg

Mae ymchwil defnyddwyr yn allweddol er mwyn dylunio a darparu gwasanaethau cost-effeithiol ac effeithlon.

Mae'n eich helpu i ddysgu am eich defnyddwyr, a deall eu:

  • hymddygiad
  • anghenion
  • cymhellion
  • profiadau a'u dealltwriaeth o'r byd

Fel hyn rydych chi'n darganfod pethau nad oeddech chi'n eu gwybod, yn datblygu empathi â'ch defnyddwyr, ac yn adeiladu'r peth iawn yn y ffordd sy'n gweithio i'ch defnyddwyr.

Beth yw ymchwil defnyddwyr

Mae ymchwil defnyddwyr yn ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth o nodi a phrofi eich rhagdybiaethau a dysgu am eich defnyddwyr.

Mae’n mynd tu hwnt i anfon holiaduron neu ofyn i bobl beth maen nhw ei eisiau. Mae'n ymwneud ag arsylwi pobl yn defnyddio gwasanaethau, profi dyluniadau gyda nhw, ac archwilio pam mae pethau'n gweithio neu ddim yn gweithio.

Mae angen i chi ddealll:

  • pwy yw eich defnyddwyr
  • beth maen nhw'n ceisio chwilio amdano, ceisio ei wneud neu ei gael, a pham
  • sut y maen nhw’n ceisio gwneud pethau nawr
  • sut mae eu profiadau bywyd a’u ffordd o edrych ar y byd yn dylanwadu ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud
  • sut maen nhw’n defnyddio a pha brofiad sydd ganddynt o wasanaethau cyfredol

Gall hyn eich helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n gweithio i’ch defnyddwyr.

Darllenwch am egwyddorion ymchwil defnyddwyr da.

Manteision ymchwil defnyddwyr

Gall darparu gwasanaeth heb ddeall eich defnyddwyr a'u hanghenion greu problemau difrifol ym mywyd eich defnyddwyr.

Er enghraifft, methu â chael cymorth ariannol, methu apwyntiad gofal iechyd pwysig neu wneud cais am drwydded.

Gall hefyd effeithio ar eich busnes a'ch sefydliad drwy:

  • gynyddu costau ac aneffeithlonrwydd
  • defnyddio adnoddau i greu'r peth anghywir
  • difrodi eich enw da
  • achosi i bolisi fethu â chyflawni ei nodau

Gan ddefnyddio tystiolaeth o ymchwil defnyddwyr i ddylunio, adeiladu a darparu eich gwasanaeth, byddwch chi'n creu rhywbeth sy'n:

  • gweithio i'ch defnyddiwr
  • datrys y broblem gywir
  • datrys eich problem mewn modd effeithiol ac effeithlon

Darllenwch sut i ymchwilio i’ch defnyddwyr a’u hanghenion.