Tagiau | |
Statws | Cymeradwywyd |
Dyddiad diweddaru | 20-06-2024 |
Mae'r Safon Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS) yn darparu ffordd safonol o gofnodi a rhannu gwybodaeth am yr offer algorithmig rydych chi'n eu defnyddio mewn fformat agored, dealladwy, hawdd ei gyrraedd ac am ddim.
Mae'n cofnodi gwybodaeth am:
- sut mae eich algorithm yn gweithio
- sut mae'n cael ei gynnwys yn eich proses gwneud penderfyniadau
- pa broblem rydych chi'n anelu i'w datrys trwy ddefnyddio'r offeryn
- eich cyfiawnhad neu'ch rhesymeg dros ei ddefnyddio
- pwy sy'n berchen ar ac yn gyfrifol am yr offeryn
Ein hargymhelliad
Yn dilyn trafodaethau, mae'r grŵp yn argymell bod sector cyhoeddus Cymru yn mabwysiadu'r ATRS i fod yn dryloyw ac atebol wrth gymhwyso awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.
Dylai'r sefydliad ddefnyddio'r ATRS i ysgogi trafodaethau a sgyrsiau o fewn eu sefydliadau i sicrhau bod ganddynt atebion i'r pwyntiau uchod.
Ni fydd mandad i gyflwyno ffurflen wedi'i chwblhau, ond gallwn gefnogi unrhyw un sydd am roi cyhoeddusrwydd i'w ffurflenni naill ai gyda'r Uned Mabwysiadu Technoleg Gyfrifol neu mewn cofrestr Gymreig.
Rhannwch eich barn
- A yw'n ddefnyddiol?
- Pa mor ymarferol mae'n rhaid i ni ddilyn?
- A yw hyn yn rhywbeth y gallai eich sefydliad ei fabwysiadu?
- A oes unrhyw beth a fyddai'n ei gwneud yn fwy perthnasol i'ch sefydliad?
- Hoffech chi gyhoeddi eich ffurflenni?
- A oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch i'w ddefnyddio?
Rhowch unrhyw adborth iddo drwy e-bostio standards@digitalpublicservices.gov.wales.