Tagiau | |
Statws | Cymeradwywyd |
Dyddiad diweddaru | 21-08-2024 |
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Cod Ymarfer yn unol â'u prif nod i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae'r mesur yn rhoi effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy alluogi gosod y safonau hyn.
Wedi'i gynnwys yn y cod ymarfer mae adran ar safonau dylunio gwasanaethau sy'n ymdrin â gwasanaethau a gohebiaeth ar-lein.
Bydd hyn yn ffurfio un rhan o rwymedigaethau ehangach y sefydliad i ddylunio a darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol dwyieithog yng Nghymru.
Ein hargymhelliad
Dylai eich cynnyrch a'ch gwasanaethau fodloni pwynt 2 Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru – byddwch yn ddwyieithog drwy ddylunio.
Fel corff cyhoeddus, dylech:
- ddefnyddio'r cod ymarfer hwn i gefnogi eich proses ddylunio, gan gynnwys unrhyw rannau o'r daith a allai fod angen gohebiaeth
Ni fydd CDPS yn monitro eich cydymffurfiad ond mae pwynt 2 Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru yn gosod y disgwyliad bod gwasanaethau wedi'u cynllunio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Bydd CDPS yn disgwyl gweld dull tîm digidol i ddylunio'n ddwyieithog yn ein hasesiad gwasanaeth a'n hadolygiad gwasanaeth.