Tagiau | |
Statws | Cymeradwywyd |
Dyddiad diweddaru | 21-08-2024 |
Mae Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) yn set o argymhellion ar gyfer gwneud eich cynnwys yn hygyrch. Mae'n berthnasol i'r holl gynnwys sy'n cael ei arddangos ar y we gan gynnwys gwasanaethau digidol, gwefannau ac apiau.
Mae'r canllawiau'n ei gwneud yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr â namau fel:
dallineb a golwg gwan
byddardod a cholled clyw
symudedd cyfyngedig
anableddau gyda lleferydd
ffotosensitifrwydd
A chyfuniadau o'r uchod. Dyw’r rhestr hon o namau ymhell o fod yn gyflawn, ond mae'n ddechrau gwych wrth feddwl am anghenion gwahanol ddefnyddiwr.
Mae WCAG yn darparu meini prawf llwyddiant a fwriedir i brofi'ch gwasanaethau a'ch cynnwys, fel eich bod chi'n gwybod ble a sut rydych chi'n cyflwyno rhwystrau i fynediad yn anfwriadol.
Ein hargymhelliad
Dylai eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau fodloni safon AA WCAG 2.2 i gydymffurfio â chyfraith y DU.
Fel corff cyhoeddus
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd').
Dim ond nifer fach o gyrff cyhoeddus sydd wedi’u heithrio o orfod bodloni'r safon hon lle y'i hystyrir yn anghymesur.
Ni fydd CDPS yn monitro'ch cydymffurfiaeth, ond dylech ofyn am gyngor cyfreithiol os credwch nad ydych yn bodloni'r rhwymedigaethau hyn, hyd yn oed os mai trydydd parti sy’n gofalu am eich gwefan neu wasanaeth.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi os nad yw gwefannau neu apiau yn cydymffurfio ac yn hygyrch.