Pam ei fod yn bwysig

Mae GPG45 yn darparu dull safonol o nodi bod person yn wirioneddol pwy maen nhw'n dweud eu bod wrth ryngweithio â gwasanaeth.

Sut gall hyn helpu

Mae'n rhoi cadarnhad i sefydliadau bod y bobl gywir yn cael mynediad at wybodaeth a'r gwasanaethau cywir ac yn atal gweithgarwch twyllodrus.

Sut mae'n gweithio

Mae'n gweithio drwy ddisgrifio ystod o Broffiliau Hunaniaeth a'r dystiolaeth a'r gwiriadau angenrheidiol i'w bodloni.

Nid yw'n gorfodi un trothwy hunaniaeth ar bob gwasanaeth cyhoeddus; gall ceisiadau risg is (casglu biniau neu gael mynediad i lyfrgelloedd) fodloni proffil hyder is na gwasanaeth budd - daliadau.

Pryd i'w ddefnyddio

Mae'n caniatáu hyblygrwydd i gyrff cyhoeddus yn seiliedig ar eu gofynion; ymateb i anghenion achos neu wasanaeth defnydd penodol, boed ar gyfer cais syml neu sensitif. 

Gan fod y canllawiau'n disgrifio meini prawf dros fandadu prosesau penodol, mae gan sefydliadau rwydd hyn o hyd i benderfynu sut i gyflawni eu harferion. Mae'n safoni sut rydym yn pennu ein hyder yn yr hunaniaeth sy'n deillio o'r hyn sy'n deillio o unrhyw broses a gaiff ei chreu.

Bydd hyn yn ddefnyddiol wrth asesu risgiau hunaniaeth sy'n gysylltiedig â gwasanaethau; byddai disgwyl y byddai gan wasanaethau sy'n gofyn am daliad fod o hyderu bod yr hawlydd yr hyn y mae'n dweud ydyw. 

Cymhwyso'r canllawiau yng Nghymru

Mae GPG45 yn cefnogi cynnyrch OneLogin GOV.UK, sydd â'r nod o ddarparu un cyfrif y gellir ei ailddefnyddio i ddefnyddwyr gwasanaeth y DU. 

Nid yw cwmpas OneLogin yn cynnwys Sector Cyhoeddus ehangach Cymru, ond mae'r egwyddorion sylfaenol a gynhwysir yn GPG45 yn drosglwyddadwy a byddent yn hwyluso symud i'r platfform hwnnw pe caiff ei roi ar waith.

Ein hargymhelliad

Dylai eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau fodloni pwyntiau 4, 5 ac 11 ar Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru – sicrhau y gall pawb ddefnyddio'r gwasanaeth, mewn ffordd gydgysylltiedig a bod hynny'n ymgorffori moeseg, data a diogelwch drwyddi draw.

Fel corff cyhoeddus sy'n adeiladu cynhyrchion/gwasanaethau sy'n gofyn am ddefnyddio hunaniaeth unigolyn, dylech chi:

  • ddefnyddio'r canllaw hwn i bennu eich lefelau hyder ar gyfer hunaniaethau ar draws ystod o wasanaethau y gallech eu cynnig. cefnogi dylunio gwasanaethau diogel gan bennu sylfeini i fabwysiadu atebion hunaniaeth ddigidol (fel OneLogin) yn y dyfodol.

Ni fydd CDPS yn monitro eich cydymffurfiaeth ond mae pwyntiau 4, 5 ac 11 yn Safonau  Gwasanaethau Digidol Cymru yn gosod y disgwyliad y gall pawb ddefnyddio'ch gwasanaeth, cyn belled a bod y profiad wedi cydgysylltu ac yn ddiogel.