Diffinio dylunio gwasanaethau

Mae Grŵp Nielsen Norman yn diffinio dylunio gwasanaethau fel:

Mae dylunio gwasanaethau yn gwella profiadau’r defnyddiwr a’r gweithiwr drwy ddylunio, alinio, a gwneud y gorau o weithrediadau sefydliad i gefnogi teithiau cwsmeriaid yn well.

Mae dylunio gwasanaethau gwych yn heriol

Yn aml mae ein gwasanaethau yn adlewyrchu strwythur adrannau mewnol neu anghenion y busnes. Efallai eu bod nhw’n ystyried un sianel gyfathrebu yn unig, fel gwefan. Ond rydyn ni’n gwybod bod gan bobl anghenion amrywiol ac y gallan nhw gael mynediad at wasanaethau mewn ffyrdd gwahanol.

Gall eich gwaith gynnwys creu neu newid trafodion, cynhyrchion a chynnwys ar draws sianeli digidol ac all-lein a ddarperir gan wahanol rannau o’r llywodraeth.

Dydyn ni ddim yn dylunio gwasanaethau, rydyn ni’n gadael iddyn nhw ddigwydd trwy ddamwain. Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd, o fenthyciadau myfyrwyr i ofal iechyd a thai, yn fwy tebygol o fod yn gynnyrch cyfyngiadau technolegol, mympwy gwleidyddol a barn bersonol nag y maent yn benderfyniad ymwybodol unigolyn neu sefydliad. Trwy beidio â dylunio ein gwasanaethau, rydym yn derbyn y byddant yn syml yn esblygu i’r amodau o’u cwmpas, p’un a yw hynny’n golygu bod gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr, yn gynaliadwy yn ariannol neu’n cyflawni canlyniad penodol ai peidio.
Lou Downe, ‘Good Services’

Manteision dylunio gwasanaethau

Mae dylunio gwasanaethau yn cymryd cyfaddawd, ac yn bwysicach fyth, mae angen cydweithio. Ond pan fydd gwasanaethau wedi’u dylunio’n dda, maen nhw’n

  • gwella enw da’r sefydliad 
  • gwneud gweithrediadau mewnol yn fwy effeithlon 
  • arbed arian 
  • cynyddu incwm (ar gyfer y gwasanaethau hynny sy’n cynhyrchu incwm) 

Mae dylunydd gwasanaethau yn bwrpasol ac yn ymwybodol yn edrych ar draws y gwasanaeth cyfan ac yn dylunio’r gwasanaeth gydag anghenion defnyddwyr wedi’u gwreiddio drwyddi draw, ac nid dim ond y rhan y gallech fod yn gweithio arni.

Darllenwch ‘What we mean by service design’ gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) 

Gwylio: Gwneud i bethau weithio gyda'i gilydd: y berthynas rhwng profiadau ar-lein ac all-lein

Dylunio gwasanaethau: yn ymarferol