Ymunwch â ni i helpu i feithrin dylunio gwasanaeth fel disgyblaeth, a gosod dylunwyr gwasanaeth fel arbenigwyr, sy'n hanfodol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Ar gyfer pwy mae’r gymuned
- Dylunwyr gwasanaeth.
- Unrthyw un sy’n dylunio gwasanaethau i wella gwasanaethau cyhoeddus er lles pobl Cymru.
Mewn cyfarfod arferol, efallai y byddwn yn:
- rhannu ein gwaith dylunio
- gwahodd siaradwyr gwadd i drafod pwnc neu brosiect
- trafod heriau a chyfleoeodd
Sut rydyn ni'n cyfarfod
Mae’r grŵp yn cwrdd ar Microsoft Teams ar ail ddydd Mercher bob mis am 11am.
Cewch wahoddiad i'r cyfarfodydd unwaith y byddwch chi wedi ymuno.
Diwylliant
Dylai aelodau’r gymuned bob amser drin ei gilydd gyda pharch a bod yn:
- garedig
- ystyriol
- adeiladol
- cynorthwyol
- cefnogol
Dydyn ni ddim yn cofnodi ein cyfarfodydd rhithiol rheolaidd.
Dyma ofod diogel i ddylunwyr cynnwys drafod eu heriau’n agored. Dylai’r aelodau barchu bod eraill o bosib yn rhannu problemau yn gyfrinachol.
Os ydyn ni’n dewis dweud wrth eraill beth rydyn ni wedi bod yn ei drafod, ni fyddwn yn rhannu’r manylion am bwy ddywedodd beth.
Arweinydd y gymuned
Vic Smith, Uwch Ddylunydd Gwasanaeth – vic.smith@digitalpublicservices.gov.wales
Ymunwch â chymuned Dylunio Gwasanaeth Cymru
Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd. Os hoffech chi ymuno â’r gymuned hon, llenwch y ffurflen:
Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).