Cynnwys
Trosolwg
Mae digidol yn fwy na phecyn cymorth: mae'n ymwneud â phobl, sut maen nhw'n gweithio, y prosesau maen nhw'n eu defnyddio a'r diwylliant maen nhw'n ei ffurfio.
Mae'r dechnoleg gywir yn galluogi timau i ddylunio, adeiladu a chynnal gwasanaethau sy'n gwella bywydau ac yn darparu gwerth cyhoeddus.
Mae dewisiadau gwael yn creu risgiau, gan gynnwys:
- dyled dechnegol
- creu rhwystrau i'r defnyddiwr
- rhwystrau i hygyrchedd a diogelwch
Drwy ddewis y dechnoleg gywir gall eich helpu i greu gwasanaethau sy'n ddibynadwy, yn raddadwy ac sy'n diwallu anghenion defnyddwyr.
Dechrau arni
Deall pam mae eich dewisiadau o ran technoleg yn bwysig a sut i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer eich gwasanaeth.
Datblygu meddalwedd ar gyfer eich gwasanaeth
Creu gwasanaeth cryf a dibynadwy sy'n diwallu anghenion defnyddwyr ac sy'n gallu tyfu'n ddiogel.
Defnyddio safonau agored a chreu cod ffynhonnell agored
Sut y gall safonau agored a chod ffynhonnell agored fod o fudd i'ch gwasanaeth.
Cynnal eich gwasanaeth
Mae dewis cartref i'r gwasanaeth ar-lein yn effeithio ar ba mor dda y mae'n gweithio, gan ei gadw'n ddiogel, yn sefydlog ac yn hawdd ei reoli.
Gwneud eich gwasanaeth yn ddiogel
Mae cadw eich gwasanaethau'n ddiogel yn bwysig er mwyn diogelu preifatrwydd ac ymddiriedaeth pobl, ac mae'n lleihau'r risg o ymosodiadau seiber a thorri data.
Profi eich gwasanaeth
Mae profi'n gynnar ac yn gyson yn helpu i nodi problemau'n gynnar a sicrhau bod eich gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr ac yn gweithredu fel y dylai.
Dylunio gwasanaethau cynaliadwy
Gall ystyried cynaliadwyedd wrth ddylunio gwasanaethau cyhoeddus helpu i leihau effaith amgylcheddol wrth greu gwasanaethau sy'n gwasanaethu pobl yn effeithiol ac sy'n para.
Dewis y dechnoleg gywir
Dewiswch y dechnoleg gywir pan fyddwch chi'n adeiladu neu'n gwella gwasanaeth.
Polisi a chanllawiau
Datganiad polisi caffael Cymru (LLYW.CYMRU)
Define your purchasing strategy (GOV.UK)
Moving away from legacy systems (GOV.UK)
Platfformau a fframweithiau
Defnyddio data i wneud penderfyniadau
Mae data yn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gweithio'n dda o fewn eich gwasanaeth ar hyn o bryd a'r hyn y gallwch ei wella, fel y gallwch wneud penderfyniadau gwybodus sy'n diwallu anghenion eich defnyddwyr yn well.