Trosolwg

Once you have planned and prepared for your AI implementation, make sure you effectively manage risk and governance.

Unwaith y byddwch wedi cynllunio a pharatoi ar gyfer eich prosiect AI, gwnewch yn siŵr eich bod yn rheoli risg a llywodraethu yn effeithiol.

Llywodraethu wrth gynnal eich prosiect AI

Diogelwch

Mae llywodraethu mewn diogelwch yn bwysig er mwyn sicrhau nad yw'r offeryn AI na'r gwasanaeth yn dangos unrhyw arwyddion o ragfarn neu wahaniaethu. Ystyriwch:

  • a yw’r algorithm yn gweithredu yn unol â ystyriaethau diogelwch a moesegol
  • mae modd egluro’r offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • mae diffiniad sydd wedi’i gytuno o degwch yn cael ei weithredu yn yr offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • mae'r defnydd o ddata yn cyd-fynd â'r Fframwaith Moeseg Data
  • Mae defnydd yr algorithm o ddata yn cydymffurfio â deddfwriaeth preifatrwydd a phrosesu data

Diben

Mae llywodraethu mewn diben yn sicrhau bod yr offeryn neu'r gwasanaeth AI yn cyflawni ei bwrpas a'i amcanion busnes. Ystyriwch:

  • a yw’r offeryn AI neu'r gwasanaeth yn datrys y broblem a nodwyd
  • sut a phryd y byddwch yn gwerthuso'r offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • mae profiad y defnyddiwr yn cyd-fynd â chanllawiau presennol y llywodraeth

Atebolrwydd

Mae llywodraethu mewn atebolrwydd yn darparu fframwaith atebolrwydd clir ar gyfer yr offeryn AI neu'r gwasanaeth. Ystyriwch:

  • os oes perchennog clir ac atebol o'r offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • pwy fydd yn cynnal yr offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • pwy sydd â'r gallu i newid ac addasu'r cod

Profi a monitro

Mae llywodraethu wrth brofi a monitro yn sicrhau bod fframwaith profi cadarn ar waith. Ystyriwch:

  • sut y byddwch chi'n monitro perfformiad yr offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • pwy fydd yn monitro perfformiad yr offeryn AI neu'r gwasanaeth
  • pa mor aml y byddwch yn asesu'r offeryn AI neu'r gwasanaeth

Naratif cyhoeddus

Mae llywodraethu mewn naratif cyhoeddus yn amddiffyn rhag risgiau enw da sy'n deillio o gymhwyso'r offeryn AI neu'r gwasanaeth. Ystyriwch p'un ai:

  • mae'r prosiect yn cyd-fynd â defnydd y sefydliad o AI
  • mae'r offeryn AI neu'r gwasanaeth yn cyd-fynd â pholisi'r sefydliad ar ddefnyddio data
  • mae'r prosiect yn cyd-fynd â sut mae dinasyddion/defnyddwyr yn disgwyl i'w data gael ei ddefnyddio

Sicrhau ansawdd

Mae llywodraethu mewn sicrhau ansawdd yn sicrhau bod y cod wedi'i adolygu a'i ddilysu. Ystyriwch p'un ai:

Rheoli risg yn eich prosiect AI

RisgiauSut i’w lliniaru
Prosiect yn dangos arwyddion o ragfarn neu wahaniaethuGwnewch yn siŵr bod eich offeryn neu wasanaeth AI yn deg, yn eglurhaol, ac mae gennych broses ar gyfer monitro allbynnau annisgwyl neu ragfarnllyd
Nid yw defnydd data yn cydymffurfio â deddfwriaeth, canllawiau na naratif cyhoeddus sefydliad y llywodraethDarllenwch y canllawiau ar baratoi eich data ar gyfer AI
Nid yw protocolau diogelwch ar waith i sicrhau eich bod yn cynnal cyfrinachedd ac yn cynnal cywirdeb dataAdeiladu catalog data i ddiffinio'r protocolau diogelwch sy'n ofynnol
Ni allwch gael gafael ar ddata neu ei fod o ansawdd gwaelMapio'r setiau data y byddwch yn eu defnyddio yn gynnar yn eich sefydliad llywodraethol a'r tu allan iddo. Yna mae'n ddefnyddiol asesu'r data yn erbyn meini prawf ar gyfer cyfuniad o gywirdeb, cyflawnrwydd, unigrywiaeth, perthnasedd, digonolrwydd, amseroldeb, cynrychioledd, dilysrwydd neu gysondeb
Ni allwch integreiddio'r Offeryn AI neu wasanaethCynnwys peirianwyr yn gynnar wrth adeiladu’r offeryn neu’r gwasanaeth AI a sicrhau bod unrhyw god a ddatblygir yn barod i gynhyrchu
Nid oes unrhyw fframwaith atebolrwydd ar gyfer yr Offeryn neu wasanaeth AISefydlu cofnod cyfrifoldeb clir i ddiffinio pwy sydd ag atebolrwydd am wahanol feysydd yr offeryn AI neu wasanaeth