Neidio i'r prif gynnwy

Cookie banner

Ry'n ni wedi cadw ffeiliau a elwir yn cwcis ar eich dyfais. Mae'r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i'r safle weithio

Byddem hefyd yn hoffi cadw rhai cwcis i'n helpu ni:

  • i wella'n gwefan drwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut yr ydych yn defnyddio'r safle
  • i deilwra cyfathrebu
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn cwcis. Gallwch newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw adeg.

You have rejected cookies You can newid eich gosodiadau cwci ar unrhyw adeg.

Dolen i wefan llyw cymru
Language switcher
  • Translate to English English
  • Cymraeg
Canolfan gwasanaethau cyhoeddus Digidol - HafanCentre for Digital public services - Homepage
  • Hafan
  • Cyrsiau a digwyddiadau
  • Arweiniad a safonau
  • Ein gwaith
  • Blogiau
  • Amdanom ni
  • Hafan
  • Cyrsiau a digwyddiadau
  • Arweiniad a safonau
  • Ein gwaith
  • Blogiau
  • Amdanom ni
Breadcrumb
  1. Hafan
  2. Amdanom ni
  3. Ein pobl
  4. Tîm arweinyddiaeth

Tîm arweinyddiaeth

Mae gan ein harweinwyr flynyddoedd o brofiad mewn newid sefydliadol, technoleg a chyfathrebu.
Harriet Green

Harriet Green

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Harriet yn gyd-Brif Swyddog Gweithredol gyda Myra, yn gweithio i alluogi ein cefnogaeth i Strategaeth Ddigidol Cymru.

Gyda Myra, mae Harriet yn atebol am CDPS sy’n bodloni ei ganlyniadau cytuniedig a’r defnydd gorau o’n hadnoddau, gan sicrhau ein bod yn deall ac yn cyflawni ar gyfer ein defnyddwyr, a’n bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnom ar lefelau uwch.

Myra Hunt

Myra Hunt

Prif Swyddog Gweithredol

Mae Myra yn Brif Swyddog Gweithredol ar y cyd â Harriet, yn arwain CDPS.

Mae Myra, ynghyd â Harriet, yn cysylltu ag arweinwyr cyhoeddus yng Nghymru i greu partneriaethau, sydd wedyn yn ein galluogi i weithio gyda’n gilydd, i wella gwasanaethau digidol i bobl ledled Cymru.

Edwina O’Hart

Edwina O’Hart

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae Edwina yn arwain y tîm cyfathrebu sy’n gweithio ar draws ein holl dimau gwasanaeth gan gynnwys safonau, hyfforddiant, digwyddiadau a darpariaeth yn ogystal a’n gweithrediadau mewnol.

Mae tîm Edwina yma i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru i weithio yn agored, i adrodd y stori am fanteision gweithio mewn ffordd Ystwyth, a’u helpu i wneud cysylltiadau buddiol i'r ddwy ochr drwy ein digwyddiadau a’n cymunedau.

Peter Thomas

Peter Thomas

Pennaeth Sgiliau a Gallu

Peter sy’n arwain y gwasanaeth dysgu sgiliau digidol i feithrin sgiliau trawsnewid digidol a hyder staff mewn rolau presennol a chefnogi’r rhai sydd am symud i wasanaethau cyhoeddus digidol Cymru.

Joanna Goodwin

Joanna Goodwin

Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr

Mae Joanna’n gweithio’n agos ar draws pob prosiect a gwasanaeth i sicrhau bod defnyddwyr wrth wraidd dylunio a gwneud penderfyniadau.

Mae Jo yn cefnogi sector cyhoeddus Cymru i gysylltu â’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallau anghenion defnyddwyr ac anghenion y busnes.

Phillipa Knowles

Phillipa Knowles

Pennaeth Gweithrediadau

Philipa yw Pennaeth Gweithrediadau ac mae’n goruchwylio Adnoddau Dynol, cyllid, llywodraethu a chaffael.

Mae’n gyfrifol am redeg sefydliad gwych fel bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae ein busnes yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn cynnig y gwerth mwyaf am arian a bod ein bwrdd yn teimlo sicrwydd.

Mae tîm gweithredu Philipa yn darparu’r cymorth i alluogi staff i wneud eu gwaith i gefnogi’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Jemima Monteith-Thomas

Jemima Monteith-Thomas

Pennaeth Safonau

Mae Jemima yn hyrwyddo'r Safon Gwasanaeth Digidol Cymru ac yn arwain gwaith CDPS i ddarparu canllawiau a chefnogaeth i'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n cwrdd â'r safon.

Mae hi hefyd yn cefnogi mabwysiadu a churadu safonau, canllawiau ac arferion da eraill o'r DU a thu hwnt i Gymru drwy'r Gweithgor Safonau Digidol, yn ogystal ag arwain datblygiad Asesiadau Gwasanaeth i ddarparu arweiniad, mewnwelediadau a sicrwydd i dimau gwasanaeth yn y sector cyhoeddus

Cadwch mewn cysylltiad

Os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith, tanysgrifiwch i glywed am hyfforddiant, digwyddiadau, a’n gwaith diweddaraf.

Ymunwch â'r rhestr bostio

Ymunwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol

  • YouTube
  • LinkedIn
  • Cofrestrwch i'n cylchlythyr

Rhowch adborth ar ein gwefan

  • Rhannu'r dudalen hon iLinkedInRhannu'r dudalen hon trwyE-bost
  • Nôl i'r brig
Footer Primary
  • Swyddi
  • Ymunwch â‘r panel ymchwil
Footer
  • Hygrchedd
  • Cwcis
  • Polisi preifatrwydd
  • Achrediad Carbon-Ymwybodol
  • Datganiad hawlfraint
Dolen i wefan llyw cymru