11 Hydref 2021

Dros y 10 wythnos diwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio ar gam darganfod yr Adolygiad o’r Tirwedd Digidol. Rydyn ni wedi blogio am ein cynnydd ar hyd y ffordd, ond roedden ni o’r farn y byddai'n ddefnyddiol crynhoi ein taith wrth i ni symud i'r cam alffa.

Pam rydyn ni’n gwneud yr adolygiad?

Ynghyd â'r Prif Swyddogion Digidol yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol ac Iechyd, rydyn ni’n gyfrifol am gyflawni Strategaeth Ddigidol Cymru.

Cenhadaeth 1 yn y strategaeth yw Gwasanaethau Digidol. Y weledigaeth ar gyfer hyn yw ‘dylunio a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn seiliedig ar anghenion defnyddwyr ac yn syml, yn ddiogel ac yn gyfleus'

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ddeall cyflwr gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn gyntaf (ar draws gwasanaethau, llwyfannau, contractau, technoleg a sgiliau) fel y gallwn ni osod blaenoriaethau'n well, datgelu unrhyw ddyblygu, nodi ble gallwn ni baru timau a gwasanaethau a dyrannu buddsoddiad ar gyfer eu gwella.

Pa wasanaethau rydyn ni’n eu hadolygu?

Rydyn ni wedi strwythuro ein gwaith yn bedwar maes gwariant cyhoeddus, a byddwn ni’n adolygu gwasanaethau ym mhob un o'r meysydd hyn. Y rhain yw Iechyd a Gofal, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr adolygiad yn cwmpasu gwasanaethau digidol a gwasanaethau annigidol fel y gallwn ni nodi'r gwasanaethau a allai elwa o fuddsoddi a chymhwyso dylunio a thrawsnewid digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Bydd tri allbwn i'r adolygiad:

  • cronfa ddata o wasanaethau sy’n bodoli eisoes a chyfleoedd i'w gwella
  • dull o flaenoriaethu'r cyfleoedd hyn
  • map trywydd wedi'i gostio – set o gyfleoedd wedi'u blaenoriaethu a'u cyllidebu i wella gwasanaethau cyhoeddus digidol ledled Cymru

Taith y cam darganfod

Yn rhan o'r cam darganfod, rydyn ni wedi bod yn gosod cwmpas yr adolygiad, casglu golwg gychwynnol ar y tirwedd gwasanaethau a rhoi ein dull o gasglu data ar brawf drwy gyfrwng dau arolwg; un arolwg cyffredinol ei natur a’r llall yn canolbwyntio ar agweddau mwy technegol. Rydyn ni hefyd wedi bod yn prototeipio ein prif allbynnau – y gronfa ddata o wasanaethau cyfredol yn bennaf a'n dull o flaenoriaethu cyfleoedd.

Beth mae perchnogion gwasanaethau am ei gael o'r adolygiad?

Mae perchnogion gwasanaethau (y rhai sy'n dylunio ac yn darparu gwasanaethau) am gael y cyfle i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaethau digidol yn y dyfodol. Maen nhw am gysylltu â'r gymuned gwasanaethau yng Nghymru a chydweithio â'r CDPS, gyda'r nod o rannu arfer gorau ac arbed arian o bosibl drwy ddatblygu llwyfannau a/neu gydrannau cyffredin.

Maen nhw am gyfrannu at yr adolygiad mewn ffordd sy'n gyflym ac yn symlach. Maen nhw hefyd am ddeall sut bydd allbynnau'r adolygiad yn cael eu defnyddio.

"Doedden ni ddim yn siŵr a oedd yr adolygiad yn mynd i ddigwydd i ni, gyda ni, neu ar ein cyfer ni."

Mewnwelediadau yn sgil ein hymchwil defnyddwyr

Cawson ni sgyrsiau â 15 o wahanol berchnogion gwasanaethau o bob rhan o Gymru fel rhan o'n cam Darganfod ac roedden ni’n chwilio am ddangosyddion allweddol a fyddai'n awgrymu arwyddion o arfer da gan gynnwys pethau fel cynnwys defnyddwyr wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.

Dywedodd 38.5% o berchnogion gwasanaethau eu bod yn cynnwys eu defnyddwyr wrth ddylunio a darparu eu gwasanaethau, dywedodd 15.4% mai dim ond yn y cyfnod dylunio y bydden nhw’n cynnwys defnyddwyr, tra bod 46.2% wedi dweud nad oedden nhw’n cynnwys defnyddwyr o gwbl.

Mae 76.9% o wasanaethau ar gael yn llawn yn Gymraeg, 15.4% ar gael yn rhannol yn Gymraeg ac mae 7.7% o wasanaethau nad ydyn nhw ar gael yn Gymraeg.

Dysgon ni lawer drwy'r sgyrsiau hyn am ddealltwriaeth pobl o safonau gwasanaeth digidol Cymru a thros y misoedd nesaf, byddwn ni’n gwneud mwy i gefnogi sefydliadau i'w mabwysiadu a'u gwreiddio.

Canfyddiadau'r arolwg technegol

Ar y pwynt hwn yn yr adolygiad, mae'n heriol cynnal unrhyw ddadansoddiad meintiol o'r arolwg technegol. Cawson ni bum ymateb (gan berchnogion gwasanaethau) ar ran eu gwasanaethau. Ar gyfer y cam alffa rydyn ni wedi ailddylunio ein dull o gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen arnon ni er mwyn dod i gasgliadau cadarnach.

Heriau a chyfleoedd a nodwyd gan berchnogion gwasanaethau

"Mae yna nerfusrwydd y bydd digideiddio gwasanaethau yn creu mwy o waith am nad oes gan y bobl sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd y sgiliau angenrheidiol."

"Mae ‘Unwaith i Gymru’ yn syniad gwych, ond mae'n golygu bod angen i chi weithio ar gyflymder yr arafaf."

"Mae'r adran TG yn gweithio i’r eithaf ac yn aml ni allan nhw gefnogi newidiadau i feddalwedd, sy'n cyfyngu ar ein gallu i wella'n gyflym."

"Er mwyn cynnal gwasanaethau digidol diogel, yn aml mae'n rhaid i berchnogion gwasanaethau brynu gwasanaeth contractwyr seiberddiogelwch allanol ac mae cost hynny’n tueddu i fod yn uchel "

Sgiliau a galluoedd digidol mewnol, a chydweithio rhwng sefydliadau oedd yr heriau mwyaf cyffredin - ond lle mae her, mae cyfle hefyd.

Allbwn y cam darganfod yw deuddeg cyfle lefel uchel ar gyfer gwella gwasanaethau.

Sonion ni yn ein blog diwethaf fod rhai o'r cyfleoedd hyn yn atgyfnerthu'r hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod ac yn gweithio tuag ato ac yn cyd-fynd â'r themâu a nodir yn Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru a safonau'r OECD ar gyfer llywodraeth ddigidol.

Rydyn ni wedi dechrau rhannu'r rhain yn gyfleoedd manylach y byddwn yn eu rhoi ar brawf a'u hiteru ymhellach yn y cam alffa.

Y camau nesaf - symud i’r cam alffa

Dros y 10 wythnos nesaf, ein targed yw casglu data ar lawer mwy o wasanaethau ar draws Llywodraeth Leol, Iechyd a Gofal, Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal ag edrych ar yr un gwasanaeth ar draws nifer o sefydliadau, rydyn ni’n bwriadu gweithio drwy'r arolygon mewn grwpiau ffocws i leihau'r baich amser ar berchnogion gwasanaethau. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i gael trafodaethau ehangach gyda mwy o berchnogion gwasanaethau.

Yn ystod y cam hwn byddwn ni hefyd yn rhoi sawl damcaniaeth ar braf am y gronfa ddata gwasanaethau a'r map trywydd wedi'i gostio a byddwn ni’n blogio am bob un o'r rhain dros yr wythnosau nesaf.

Os oes gennych chi ddiddordeb clywed mwy am y cam darganfod a chanfyddiadau manylach, gallwch wylio recordiad o’r sesiwn Dangos a Dweud ar ddiwedd y cam darganfod.

Rydyn ni eisoes yn siarad â sefydliadau fel Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i enwi ond rhai.

Os ydych chi’n gweithio mewn unrhyw un o'r 4 maes uchod ac yn awyddus i helpu i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaethau digidol yn y dyfodol, bydden ni wrth ein bodd i gael clywed gennych.

Cysylltwch â ni landscapereview@digitalpublicservices.gov.wales