Peidiwch ‘Googlo’ tudalennau ydych chi’n ymweld yn aml a pheidiwch a chadw ffeiliau di-angen – barn arweinwyr digidol yn cyd-fynd a phrosiect CDPS

30 Mehefin 2022

Gall dileu tudalennau nad ydynt yn cael eu gweld ar eich gwefan arbed ynni - ac, yn y pen draw, allyriadau carbon hefyd © Unsplash

Rydyn ni wedi clywed y mantra cartrefi gwyrdd. Diffoddwch y goleuadau pan fyddwch chi'n gadael ystafell. Berwch ddigon o ddŵr ar gyfer faint ydych chi angen. Cadwch gawodydd yn fyr a choginiwch fwy nag un peth tra bod y popty ymlaen.

Ond beth am y gweithle? Mae prosiect darganfod Tech Net Zero (TNZ) CDPS yn ymwneud â sut y gall technoleg glyfar yn y sector cyhoeddus helpu Cymru i dorri allyriadau carbon erbyn 2050. Roedd gan rai o’r siaradwyr yn ystod Wythnos Digital Leaders yr wythnos diwethaf ffocws ehangach: sut all technoleg yn gyffredinol fynd yn fwy gwyrdd yn y gweithle. 

Roedd tîm TNZ eisiau rhannu awgrymiadau da o'r sesiynau technegol hynny oedd yn trafod pynciau tebyg iawn i ni.

Mae cymryd cawodydd byrrach yn lleihau ôl troed carbon gartref, ond sut all technoleg helpu i warchod y blaned yn y gweithle? © Unsplash

10 ffordd o frwydro yn erbyn cynhesu byd-eang yn y gweithle

  1. Gweithiwch allan ôl troed carbon eich gwefan (gan ddefnyddio'r gyfrifiannell hon, er enghraifft) i wneud penderfyniadau ynghylch cynnwys gwyrdd. 
  2. Edrychwch ar draffig eich gwefan – a allech arbed ynni llwytho tudalennau drwy ddileu tudalennau ag ychydig iawn o bobl yn eu darllen? (oni bai bod gan y tudalennau hynny swyddogaeth benodol ond pwysig o hyd) 
  3. Anfonwch lai o e-byst: yn ôl ymchwil gan OVO Energy, pe bai pawb yn y DU yn anfon un e-bost ‘diolch’ yn llai – gallai arbed 16,000 tunnell o garbon y flwyddyn. 
  4. Gall haneru’r camau y mae’n rhaid i rywun eu cymryd trwy wasanaeth digidol (e.e app bancio) haneru’r ôl troed carbon.
  5. Rhowch nod tudalen ar wefannau rydych chi'n eu defnyddio'n aml, peidiwch â defnyddio peiriannau chwilio (sy'n defnyddio mwy o ynni) bob tro.
  6. Mae canolfannau data yn defnyddio tua 3% o drydan y byd - ceisiwch ddileu data diangen a chadw ffeiliau archif, delweddau a fideos all-lein.
  7. Rhannwch ffeiliau mawr fel dolen lawrlwytho yn hytrach nag atodiad e-bost (gan fod y llwyth data lawer llai).
  8. Bydd haneru ‘pwysau’ y dudalen ar wefannau (swm y data i’w lawrlwytho) hefyd yn haneru’r ôl troed carbon.
  9. Defnyddiwch ffeiliau delwedd WebP (fformat mwy newydd, data ysgafn) yn hytrach na .jpeg neu .png, a ceisiwch leihau nifer y fideos a delweddau ar wefannau. 
  10. Datgysylltwch eich gliniadur unwaith y bydd wedi'i wefru i ymestyn oes y batri.

(Diolch i Danny Weston, James Cannings a Cory Hughes am adael i ni rannu’r awgrymiadau hyn o’u sgyrsiau Wythnos Arweinwyr Digidol.)

Mae mwy o wybodaeth am gam darganfod Tech Net Zero yn y sgwrs gan Cory Hughes yn ystod Digital Leaders. Mae Cory yn gyfarwyddwr yn Perago, sy'n bartner i CDPS yn y cam darganfod.