'Sut mae ‘da’ yn edrych?' gyda Ian Vaughan, Arweinydd Trawsnewid Digidol, Cyngor Catsell-nedd Port Talbot.
Cyfle i ddysgu dros ginio gyda'n cyfres weminarau sydd i ddod, "Sut mae ‘da’ yn edrych?" a gynhelir gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). Ymunwch â ni wrth i ni rannu ein straeon llwyddiant o drawsnewid digidol o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd cyfle ichi ddarganfod mwy am:
- sefydliadau ac unigolion ysbrydoledig
- strategaethau allweddol a mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol digidol sy'n sbarduno newid yn y sector cyhoeddus
- awgrymiadau ymarferol ar gyfer goresgyn heriau a chael effaith barhaol
P'un a ydych chi'n weithiwr proffesiynol digidol profiadol neu'n newydd i'r daith trawsnewid digidol, mae'r gyfres hon yn addo rhoi'r wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i sbarduno newid ystyrlon yn eich sefydliad.