Cynnwys
Ar hyn o bryd mae CDPS wrthi'n datblygu rhaglenni interniaeth a phrofiad gwaith wedi'u teilwra i ddarparu profiad ymarferol o fewn ffrydiau gwaith digidol a methodolegau Ystwyth.
Bydd ein mentrau yn cynnig cyfle amhrisiadwy i gyfranogwyr ymgolli ym myd arloesi digidol, gan ennill mewnwelediadau a sgiliau ymarferol y mae galw mawr amdanynt yn y diwydiant heddiw. P'un a ydych chi'n fyfyriwr sy'n awyddus i gychwyn ar eich taith gyrfa neu'n unigolyn sydd am archwilio llwybrau newydd yn y byd digidol, bydd ein rhaglenni interniaeth a phrofiad gwaith yn darparu amgylchedd cefnogol a chyfoethog ar gyfer datblygiad.
Cadwch lygad am ddiweddariadau pellach wrth i ni gwblhau manylion y cyfleoedd cyffrous hyn.
Ar gyfer ymholiadau neu ddatganiadau o ddiddordeb, cysylltwch â lauren.power@digitalpublicservices.gov.wales
Cwrdd â'n interniwr
Enw: Jack Farr
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Cwrs: Troseddeg
Blwyddyn: 1
Trwy gydol ei interniaeth, mae wedi gweithio gyda'r gwasanaeth dysgu sgiliau digidol i ymchwilio a dyfnhau ei ddealltwriaeth o'r sgiliau, y rolau a'r cyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn rolau digidol, data a thechnoleg.
Bydd y gwaith hwn yn helpu CDPS i weithio tuag at ein cylch gwaith o greu piblinell o dalent ddigidol.
O dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol, mae Jack wedi cymryd rhan weithredol mewn arferion Ystwyth fel ein cyfarfodydd byr ac ôl-arolygon, gan ennill profiad ymarferol amhrisiadwy mewn methodolegau Ystwyth.
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Jack yn arddangos ei ganfyddiadau craff ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Mai, sy'n dyst i'w ymroddiad a'i arbenigedd yn y maes. Cadwch lygad allan am Jack wrth iddo barhau i ddatblygu ym myd trawsnewid digidol!
Cysylltwch â Jack ar LinkedIn.