Dyma beth fyddwn ni'n ei drafod:·

  • Trosolwg o brosiect system ddylunio Cymru. Beth yw’r prosiect? Beth mae e'n golygu? Pa fuddion y gellid eu gwireddu?
  • Diweddariad ymchwil: Y diweddariadau diweddaraf ar y daith ymchwil hyd yn hyn. Byddwn yn rhannu manylion am bwy rydym wedi siarad gyda, beth yw eu hanghenion a beth mae'r ymatebion cychwynnol i'r arolwg yn ei ddweud wrthym.
  • Themâu allweddol: Byddwn yn ymchwilio i rai o'r themâu sy'n dod i'r amlwg sydd wedi'u darganfod trwy ein hymchwil ac yn egluro beth mae'r rhain yn ei olygu.
  • Edrych ymlaen: Y camau nesaf yn y darganfyddiad a'r cyfleoedd i archwilio ymhellach.

Dyma gyfle i ymgysylltu â Perago a CDPS a gofyn unrhyw gwestiynau am y datblygiadau diweddaraf, cael mewnwelediadau gwerthfawr, a chyfrannu at lunio dyfodol y darganfyddiad hwn. Rydym yn eich annog i ofyn cwestiynau, rhannu eich syniadau, a chyfrannu at y sgwrs.