Mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi llunio Bwrdd Safonau Digidol a Data i Gymru sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, iechyd a gofal cymdeithasol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae safonau a chanllawiau sydd wedi'u profi yn eich helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell. Nid yw'r grŵp wedi'i fwriadu fel grŵp gwneud penderfyniadau ar gyfer mabwysiadu safonau a chanllawiau, ond i sicrhau nad ydym yn ailddyfeisio'r safonau presennol, ac mae unrhyw beth yr ydym yn ei fabwysiadu yn addas at y diben i Gymru.
Cylch gwaith y grŵp
Bydd y grŵp yn:
- cefnogi'r sector cyhoeddus i fabwysiadu Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru
- darparu dolen adborth i ailadrodd a gwella'r safonau hyn
- ceisio, coladu a hwyluso mabwysiadu arfer da, canllawiau a safonau eraill sy'n bodoli eisoes ar draws sectorau, gwledydd ac adrannau eraill y llywodraeth, gan eu gwneud yn berthnasol i Gymru drwy ddarparu cyd-destun neu gyngor ychwanegol
- eirioli dros flaenoriaethau Cymru mewn deddfwriaeth ac ymgynghoriadau perthnasol yn y DU
Proses gymeradwyo ar gyfer mabwysiadu safonau ac arweiniad eraill
Mae llawer o arweiniad eisoes ar gael. Rydym am osgoi dyblygu lle bo hynny'n bosibl, dysgu gan eraill a'u haddasu i ddiwallu anghenion ein sefydliadau.
Bydd aelodau'r grŵp yn nodi safonau a chanllawiau perthnasol ac yn trafod:
- y broblem mae'r safon neu'r arweiniad yn ei datrys
- i ba raddau y mae angen ei newid neu ei gyd-destunoli i ddiwallu ein hanghenion yng Nghymru, a sut y byddwn yn gwneud hyn
Byddwn yn gofyn am eich adborth cyn argymell bod y safon neu'r arweiniad yn cael eu mabwysiadu.
Bydd canllawiau a safonau mabwysiedig yn cael eu mabwysiadu i mewn i beta yn gyntaf, fel y gall sefydliadau barhau i'w profi'n ymarferol.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch standards@digitalpublicservices.gov.wales.
Safonau wedi'u cymeradwyo
Gweler y safonau yr ydym wedi'u cymeradwyo.
Mae aelodau yn cynnwys:
Rebecca Godfrey – Awdurdod Cyllid Cymru (Cadeirydd)
Harriet Green – Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Jemima Monteith-Thomas – Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Glyn Jones – Llywodraeth Cymru
Richard Palmer – Data Cymru
Lindsey Phillips – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
John Morris – Llywodraeth Cymru
Rhiannon Caunt – Data Cymru
Amir Ramzan – Llywodraeth Cymru
Mike Emery – Prif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Janine Pepworth – Llywodraeth Cymru
Emma Willis – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Aeddan Davies – Llywodraeth Cymru
Ceri Davies – Llywodraeth Cymru
Chris Carter – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mike Thomas – Llywodraeth Cymru
Heledd Quack – Cyfoeth Naturiol Cymru
Ray Sherry – Cyfoeth Naturiol Cymru