Mewn e-bost diweddar at Brif Weithredwyr y sector cyhoeddus, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol "Yn y cyfnod hwn o heriau'r gyllideb, mae'n bwysig ein bod yn osgoi atebion tymor byr gan ein bod yn gwybod y bydd hyn ond yn storio problemau ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, rhaid i ni barhau i ddilyn cyfeiriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."
Yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) rydym wedi bod yn cael sgyrsiau tebyg gydag arweinwyr y sector cyhoeddus am bwysigrwydd parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel eu bod wedi'u cynllunio o amgylch anghenion cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac i ddigidol gael ei ystyried yn alluogwr i helpu i gyflawni blaenoriaethau.
Hoffem eich gwahodd i ddigwyddiad rhwydweithio ar y cyd gyda'r Comisiynydd, Derek Walker, i archwilio hyn ymhellach ac i drafod sut y gallwn eich cefnogi yn y cyfnod heriol hwn.
Byddwn hefyd yn clywed gan Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth Awdurdod Refeniw Cymru, a fydd yn rhoi mewnwelediad inni o sut maent yn datbylgu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnddiwr.
Agenda digwyddiad:
5:00yh - Cyrraedd
5:15yh - Prif bwnc, cwestiynau a thrafodaeth
6:00yh - Rhwydweithio a lluniaeth
7:00yh - Diwedd