Ar gyfer pwy mae’r gymuned
- Dylunwyr rhyngweithio.
- Dylunwyr UX.
- Dylunwyr gwe.
- Dylunwyr graffeg.
- Unrhyw un sy'n gwneud gwaith dylunio digidol.
Mewn cyfarfod arferol byddwn yn:
- rhannu ein gwaith dylunio diweddar
- cael siaradwr gwadd i drafod pwnc amserol
- trafod problemau cyffredin y down ar eu traws
Mae'r canllaw dylunio rhyngweithio, UX ac UI yn dweud wrthych am y mathau o ddylunio a'u rôl wrth datblygu gwasanaethau neu gynnyrch. Dyma'r math o bethau yr ydyn ni'n eu trafod.
Sut rydyn ni'n cyfarfod
Mae’r grŵp yn cyfarfod ar Microsoft Teams ddydd Iau olaf bob mis am 11yb, ond gall hyn newid yn ddibynnol ar argaeledd siaradwyr gwadd.
Pam ymunwch, byddch yn cael gwahddiad i blatfform Basecamp lle rydyn ni'n cysylltu rhwng cyfarfodydd i drafod syniadau, adborth ac unrhywbeth diddorol.
Diwylliant
Dylai aelodau’r gymuned bob amser drin ei gilydd gyda pharch a bod yn:
- garedig
- ystyriol
- adeiladol
- cynorthwyol
- cefnogol
Dydyn ni ddim yn cofnodi ein cyfarfodydd rhithiol rheolaidd.
Dyma ofod diogel i ddylunwyr cynnwys drafod eu heriau’n agored. Dylai’r aelodau barchu bod eraill o bosib yn rhannu problemau yn gyfrinachol.
Os ydyn ni’n dewis dweud wrth eraill beth rydyn ni wedi bod yn ei drafod, ni fyddwn yn rhannu’r manylion am bwy ddywedodd beth.
Arweinydd y gymuned
Liam Collins, Dylunydd Rhyngweithio – liam.collins@digitalpublicservices.gov.wales
Ymunwch â'r gymnued Dylunio Profiadau Digidol
Mae’r gymuned yn wirfoddol a bob amser yn agored i aelodau newydd.
Os hoffech chi ymuno â’r gymuned hon, llenwch y ffurflen:
Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â seren(*).