Cyflwynydd/wyr: Gabi Mitchem-Evans (uwch ymchwilydd defnyddiwr CDPS) and Yana Blake-Walker (ymchwilydd defnyddwyr CDPS) 

Mae cyfweliadau defnyddiwr yn ddull gwych o ddeall anghenion eich defnyddiwr ond gall lunio’r cwestiynau cywir i’w gofyn i ddefnyddiwr fel eich bod yn cael mewnwelediadau ystyrlon fod yn anodd. Ymunwch â ni am sesiwn cinio a dysgu ar sut i ofyn y cwestiynau cywir i ddefnyddwyr. Darganfyddwch sut i baratoi ar gyfer ymchwil ddefnyddwyr a sut i lunio cwestiynau ymchwil rhanddeiliaid yn gwestiynau ‘barod am ymchwil’. Byddwn yn archwilio rhai egwyddorion dylunio cwestiynau da ac yn rhannu strategaethau i osgoi peryglon cyffredin.

Os ydych yn ymchwilydd defnyddiwr profiadol neu ddim ac eisiau dechrau gwneud rhywfaint o ymchwil gyda’ch defnyddwyr, bydd y sesiwn hon yn rhoi rhai technegau gwerthfawr i chi ac yn eich helpu i gasglu mewnwelediadau mwy ystyrlon o’ch ymchwil i ddefnyddwyr. Trwy baratoi a gofyn cwestiynau gwell byddwch yn datgelu anghenion a dewisiadau defnyddwyr yn well, gan eich helpu i ddylunio gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.

Beth yw cinio a dysgu?   

Ymunwch â ni am 30-munud o dreiddio’n ddwfn i mewn i bwnc gyda grŵp drwy Zoom.   

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd gyda chi gwell dealltwriaeth ac awgrymiadau am gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu.   

Efallai y byddwn yn ymarfer techneg yn ystod y sesiwn, neu’n cynhyrchu syniadau neu drafod arferion gorau. 

Efallai y byddwn ni'n creu rhai templedi i chi eu lawrlwytho ar ôl y sesiwn.