Cyflwynydd/wyr: Adrián Ortega (dylunydd cynnwys CDPS)
Ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn cinio a dysgu nesaf, lle byddwn yn archwilio techneg i gydweithio wrth ddylunio a chynhyrchu cynnwys yn fwy effeithiol. Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu:
- beth yw ysgrifennu pâr a thriawd
- manteision gweithio gyda'n gilydd
- sut i’w gweithredu
P'un a ydych chi'n arbenigwr cynnwys neu'n rhywun sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw, rhowch gynnig ar hyn er mwyn cyflwyno gwybodaeth sy'n diwallu anghenion eich defnyddwyr yn y ffordd y mae ei hangen arnynt.
Beth yw cinio a dysgu?
Ymunwch â ni am 30-munud o dreiddio’n ddwfn i mewn i bwnc gyda grŵp drwy Zoom.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd gyda chi gwell dealltwriaeth ac awgrymiadau am gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu.
Efallai y byddwn yn ymarfer techneg yn ystod y sesiwn, neu’n cynhyrchu syniadau neu drafod arferion gorau.
Efallai y byddwn ni'n creu rhai templedi i chi eu lawrlwytho ar ôl y sesiwn.