Cyflwynydd/wyr: Tom Brame (ymchwilydd defnyddwyr CDPS) a Promise Michael (ymchwilydd defnyddwyr CDPS)

 

Beth yw cinio a dysgu?  

Ymunwch â ni am 30-munud o dreiddio’n ddwfn i mewn i bwnc gyda grŵp drwy Zoom.  

Ar ddiwedd y sesiwn, bydd gyda chi gwell dealltwriaeth ac awgrymiadau am gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu.  

Efallai y byddwn yn ymarfer techneg yn ystod y sesiwn, neu’n cynhyrchu syniadau neu drafod arferion gorau.

Efallai y byddwn ni'n creu rhai templedi i chi eu lawrlwytho ar ôl y sesiwn.