Addas ar gyfer
Penaethiaid adrannau, gwasanaethau, neu sydd mewn rôl arweinyddiaeth debyg sydd:
- wedi cwblhau Digidol ac Ystwyth: y sylfeini a sydd am roi dulliau hyblygar waith yn eu tîm
- â dylanwad dros adnoddau a ffyrdd o weithio
Cost
Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.
Cynnwys y cwrs
Bydd ein cwrs yn:
- dangos i chi sut i fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- eich helpu i sefydlu rolau, cyfrifoldebau a ffyrdd clir o weithio o fewn tîm Ystwyth
- dangos i chi sut i gynllunio map ffordd cynnyrch
- dangos sut i hwyluso sesiwn retro i adlewyrchu a gwella ffyrdd o weithio
- trafod sut i greu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau
- dangos i chi sut i ddangos cynnydd drwy weithio yn agored
- rhoi cyngor i chi ar ddechrau arni yn eich tîm
Canlyniadau'r cwrs
Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
- deall gwerthoedd ac egwyddorion ffyrdd hyblyg o weithio
- esbonio'r gwahaniaeth rhwng meddylfryd prosiect a chynnyrch a sut mae hyn yn cysylltu â gwahanol ddulliau (megis Rhaeadr ac Ystwyth)
- creu gweledigaeth gwasanaeth i gyflawni nodau mesuradwy trwy ffyrdd hyblyg o weithio
- asesu effaith adeiladu timau traws-swyddogaethol
- myfyrio ar ffyrdd o wella arferion gwaith o fewn timau Agile
- blaenoriaethu agweddau ar fap ffordd cynnyrch, sy'n cyd-fynd â gweledigaeth eich gwasanaeth
- esbonio pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- dechrau creu amgylchedd i bobl wneud eu gwaith gorau
Sut byddwch chi'n dysgu
Gofynnwn i'r holl gyfranogwyr gwblhau ein cwrs Digidol ac Ystwyth: y seiliau yn gyntaf.
- Ar hyn o bryd, Saesneg yw iaith y cwrs.
- Ar hyn o bryd, mae'n cael ei gyflwyno'n fyw ar Microsoft Teams.
- Dros 2 ddiwrnod (14 awr).
- 12 bobl fesul sesiwn.
- Rydym yn hwyluso tasgau grŵp i'ch helpu i ddysgu.
Diweddariad am ein cyrsiau – mewn ymateb i’r galw, rydym yn ychwanegu dull hyfforddi hunan-arweiniol Google Classroom i’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio i hyfforddi. Bydd gennych yr hyblygrwydd i reoli eich dysgu eich hun gyda chefnogaeth ac adnoddau gan ein hyfforddwyr.
Cofrestru eich diddordeb
Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu, cwblhewch ein ffurflen mynegi diddordeb.