Addas ar gyfer

  • Y rhai sydd wedi cwblhau Digidol ac Ystwyth: y seiliau a sydd am roi dulliau hyblygar waith.
  • Y rhai sydd wedi cwblhau cwrs Digidol ac Ystwyth: y seiliau ac sydd eisiau cyflwyno ffyrdd hyblyg o weithio i dîm y maent yn ei arwain.
  • Y rhai sy’n newydd i dîm sydd wedi mynychu'r cwrs hwn ac wedi gweithredu ffyrdd hyblyg o weithio.

Cost

Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i sefydliadau datganoledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi ein helpu i wella'r cyrsiau hyn i eraill drwy gymryd rhan mewn ymchwil.

Cynnwys y cwrs

Bydd ein cwrs yn:

  • rhoi cip ar werthoedd ac egwyddorion Agile
  • trafod sut i flaenoriaethu llwyth gwaith a gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • dangos i chi sut i gynllunio cylchoedd sbrint
  • trafod sut i greu amgylchedd gwaith cefnogol i bobl wneud eu gwaith gorau
  • rhoi awgrymiadau ar sut i gymryd y camau cyntaf wrth weithredu ffyrdd hyblyg o weithio mewn tîm

Canlyniadau'r cwrs

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn gallu:

  • esbonio'r gwahaniaeth rhwng meddylfryd prosiect a chynnyrch a sut mae hyn yn cysylltu â gwahanol ddulliau (megis Rhaeadr ac Ystwyth)
  • deall pwysigrwydd creu gweledigaeth gwasanaeth i ddiffinio eich map ffordd, rhestr o anghenion a thasgau
  • asesu effeithiolrwydd cylchoedd sbrint
  • esbonio'r gwahaniaethau rhwng fframweithiau cyflawni gwahanol Agile
  • deall rolau a chyfrifoldebau gwahanol bobl mewn tîm amlddisgyblaethol

Sut byddwch chi'n dysgu

Gofynnwn i'r holl gyfranogwyr gwblhau ein cwrs Digidol ac Ystwyth: y seiliau yn gyntaf.

  • Ar hyn o bryd, Saesneg yw iaith y cwrs.
  • Ar hyn o bryd, mae'n cael ei gyflwyno'n fyw ar Microsoft Teams.
  • Dros 2 ddiwrnod (14 awr).
  • 12 bobl fesul sesiwn.
  • Tasgau grŵp i'ch helpu i ddysgu.

Diweddariad am ein cyrsiau – mewn ymateb i’r galw, rydym yn ychwanegu dull hyfforddi hunan-arweiniol Google Classroom i’r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio i hyfforddi. Bydd gennych yr hyblygrwydd i reoli eich dysgu eich hun gyda chefnogaeth ac adnoddau gan ein hyfforddwyr.

Cofrestru eich diddordeb

Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu, cwblhewch ein ffurflen mynegi diddordeb.