Mae glasbrint gwasanaeth yn dogfennu sut mae'r cwmni'n gweithio a'i weithrediadau mewnol.
Mae'n mapio'r broses gyfan o ddarparu gwasanaethau, uwchlaw ac islaw'r llinell amlygrwydd.
Dywed Fresco:
Pryd i ddefnyddio glasbrint gwasanaeth
Defnyddiwch glasbrintiau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau presennol. Ni ddylid defnyddio glasbrint gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau newydd nac fel offeryn syniadaeth.
Cynnwys glasbrint gwasanaeth
Fel diagram, mae glasbrint gwasanaeth yn rhestru'r holl weithgareddau sy'n digwydd ar bob cam, a berfformir gan y gwahanol rolau dan sylw.
Drwy fapio'r camau gan wahanol grwpiau defnyddwyr, mae'r matrics sy'n deillio o hynny yn dangos y berthynas rhwng yr hyn y mae'r defnyddiwr yn ei brofi, a'r hyn sy'n digwydd y tu mewn i'r sefydliad, gan helpu i gysoni'r prosesau busnes â thaith y defnyddiwr.
Mae'r enghraifft hon yn dangos y llinell amlygrwydd. Mae'r llinell hon yn gorwedd rhwng yr hyn y mae'r cwsmer yn ei weld a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Mae hyn yn sicrhau bod y prosesau, y camau gweithredu a'r cynnwys yn cael eu hystyried a'u cynllunio, nid eu gadael i hap a damwain.