Mae dylunio gwasanaethau yn cymryd cyfaddawd, ac yn bwysicach fyth, mae angen cydweithio. Ond pan fydd gwasanaethau wedi'u dylunio'n dda, maen nhw'n:
- gwella enw da'r sefydliad
- gwneud gweithrediadau mewnol yn fwy effeithlon
- arbed arian
- cynyddu incwm (ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n cynhyrchu incwm)
Mae dylunydd gwasanaethau yn bwrpasol ac yn ymwybodol yn edrych ar draws y gwasanaeth cyfan ac yn dylunio'r gwasanaeth gydag anghenion defnyddwyr wedi'u gwreiddio drwyddi draw, ac nid dim ond y rhan y gallech fod yn gweithio arni.
Darllenwch ‘What we mean by service design’ gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS)