Byddwn ni yn:
- Dylanwadu ar yr agenda ddigidol ar gyfer Cymru (fel bod eglurder o ran arweinyddiaeth a chyfeiriad)
- Gweithio gyda sefydliadau i wneud pethau'n wahanol (fel bod dulliau digidol yn cael eu mabwysiadu i wneud gwasanaethau sy'n diwallu anghenion defnyddwyr yn well)
- Tyfu gallu a sgiliau modern (DDaT) yn sector cyhoeddus Cymru (fel bod gan bobl yr hyder, y sgiliau, y gallu a'r medrau i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus)
- Gwreiddio safonau a chanllawiau (fel bod cysondeb o ran dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwasanaethau'n haws i'w defnyddio a'i gwneud yn haws i sefydliadau gydweithio)
- Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau a rennir (fel ein bod yn osgoi dyblygu, ac aneffeithlonrwydd ac yn darparu buddion defnyddwyr a gwerth am arian ar draws y sector cyhoeddus)
- Rhedeg CDPS gwych (fel bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gyrfaoedd, ac mae ein busnes yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn cynnig y gwerth mwyaf am arian)