Wrth ddechrau prosiect Ystwyth newydd, mae'n aml yn teimlo ein bod ni'n dysgu iaith newydd, gan fod methodoleg Ystwyth yn dod gyda'i derminoleg ei hun.
Deall terminoleg Ystwyth
Weithiau mae timau'n cael eu difyrru a'u drysu gan derminoleg Agile.
I fod yn rhugl, fel pob iaith, mae angen i chi ei defnyddio cymaint â phosib, gan wybod er y byddwch yn gwneud camgymeriadau, y byddwch yn gwella dros amser.
Dysgu'r iaith newydd i dimau
Mae hyn yn cynnwys:
- treulio amser gyda'r timau mewnol
- mynd drwy'r broses Ystwyth yn fanwl
- creu offeryn i drosi, geirfa neu derminoleg
Nid yw hyn yn broses gyflym. Ond mae mynd trwy'r dull gyda thîm mewnol yn angenrheidiol.
Mae cyfieithu'r derminoleg yn iaith plaen i'r rhai sy'n newydd i Ystwyth hefyd yn helpu.
Er enghraifft:
- peidiwch â siarad am 'seremonïau', siarad am gyfarfodydd prosiect neu sgyrsiau
- peidiwch â siarad am y 'cyfnod alffa' ond am 'feddwl am atebion ymarferol i wella'r gwasanaeth'
Dylai timau fod yn agored am ba dermau nad ydyn nhw'n eu gwybod na'u deall. Byddwch yn agored am hyn. Mae peidio â deall ein gilydd yn golygu bod peryg i ni golli'r ystyr neu'r manylion ar adegau.
Ydi iaith Ystwyth yn bwysig?
Felly, oes ots bod yna iaith newydd yn gysylltiedig ag Ystwyth?
Mewn rhai achosion, gall greu rhwystr i fabwysiadu ffyrdd Ystwyth o weithio.
Ond mae dysgu iaith newydd yn rhoi cipolwg i ni ar ddiwylliant neu ffordd arall o edrych ar gysyniadau. Mae hyn yn ychwanegu at ein gallu creadigol ac yn caniatáu inni feddwl am bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol.
Felly, po fwyaf rydyn ni'n agored i ieithoedd a chysyniadau newydd, y mwyaf rydyn ni'n cynyddu ein gallu creadigol a'n ffyrdd o fynd at broblemau neu sefyllfaoedd.
Cofleidio'r iaith
Ystyriwch eich dull gweithredu cyn dechrau prosiect newydd. Peidiwch ag osgoi'r drafodaeth gyda'r rhai sy'n rhan o'r prosiect.
Penderfynwch gyda'ch gilydd a ddylech gofleidio'r derminoleg newydd neu ddefnyddio iaith blaen.
Efallai gallwch wneud y ddau a chyd-greu eich geirfa eich hun, gan fynd trwy'r derminoleg Ystwyth a gofyn i'r tîm gynnig pa eiriau maen nhw am eu defnyddio.
Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n archwilio'r cysyniadau tu ôl i'r iaith. Mae hyn yn rhoi gwahanol ffyrdd i chi edrych ar broblemau a gwella gwasanaethau.
Darllen pellach
- Agile glossary gan Co-op Digital