Rhowch wybod i ni sut gall ein cyrsiau Ystwyth a dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr fodloni eich anghenion yn well
9 Mehefin 2022
Gan ddechrau’n hwyr yn 2021, mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) wedi rhoi hyfforddiant ar sgiliau digidol ac Ystwyth i fwy na 600 o bobl ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Mae’r tîm Sgiliau a Galluoedd wedi cyfarfod â llawer o weision sifil ymroddedig a brwdfrydig ar ein cyrsiau ac wedi gweld y geiniog yn syrthio sawl gwaith. Mae ein harolygon bodlonrwydd yn awgrymu bod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol i’r rhai a gymerodd ran.
Mae hyfforddiant yn gwneud gwasanaethau gwell
Gan ei bod wedi cwblhau ein hyfforddiant lansio, nesaf rydym eisiau cynorthwyo’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y cyrsiau i roi’r sgiliau maen nhw wedi’u dysgu ar waith er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru. Ni fydd yr hyfforddiant gorau, hyd yn oed, yn cael yr effaith a ddymunwn ar ei ben ei hun. Os bydd y cyfranogwyr yn wynebu rhwystrau wrth ddatblygu a rhannu eu sgiliau newydd, sut gallwn eu helpu nhw a’r sefydliadau maen nhw’n gweithio iddynt i’w goresgyn? Beth arall y mae angen i ni ei wneud i helpu gweision sifil a chyhoeddus i gyflawni cenhadaeth 1 y Strategaeth Ddigidol i Gymru: ‘Darparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod yn cael eu dylunio ar sail anghenion y defnyddiwr a’u bod yn syml, diogel a chyfleus.’
Gan ystyried y cwestiynau hyn, rydym wedi penderfynu gohirio ein hyfforddiant dros yr haf er mwyn deall anghenion ein defnyddwyr yn well. Rydym yn adolygu’r hyn a gynigiwn i amlygu sut beth fyddai gwasanaeth mwy cynhwysfawr: un a fyddai’n ystyried ‘taith’ gyfan cyfranogwyr o feddwl am gofrestru, i fynychu cwrs, i ychwanegu at eu hyfforddiant wedi hynny yn y gweithle ac mewn mannau eraill. Hoffem lansio’r gwasanaeth cyfannol hwn o dan y faner ‘Campws Digidol’.
Byddwn yn parhau i weithio’n agored, gan roi diweddariadau i bawb ar ein cynnydd trwy sesiynau dangos a dweud misol, ein nodiadau wythnosol a’n postiadau blog.
Sut beth yw llwyddiant – a chwestiynau eraill
Rydym wrthi’n asesu’r gwasanaeth er mwyn deall pa elfennau o’r hyfforddiant sydd wedi gweithio, pa rai nad ydynt wedi gweithio a’r hyn y gallem ei wneud yn wahanol – a hynny i gyd wedi’i gefnogi gan adborth a data arall.
Mae tair set o gwestiynau’n dod i’r amlwg.
1. Sut beth yw llwyddiant?
Mae angen i ni gael dealltwriaeth gliriach o sut beth yw hyfforddiant llwyddiannus a sut i’w fesur y tu hwnt i niferoedd mynychwyr. Er enghraifft, sut mae sefydliad yn newid ar ôl i’w staff gael eu hyfforddi? A yw sefydliadau’n barod, yn fodlon ac yn gallu defnyddio’r sgiliau y mae’r rhai sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau yn eu dysgu? A yw eu gwasanaethau’n agosach at fodloni Safonau Gwasanaeth Cymru pan fydd staff wedi cael eu hyfforddi?
2. Pwy ddylem ni ei hyfforddi?
Sut ydym ni’n gwybod bod y bobl iawn ar y cyrsiau iawn? Mae angen i ni fod yn fwy eglur ynglŷn â phwy fydd yn elwa fwyaf o’n hyfforddiant a pham. Rydyn ni eisiau bod yn siŵr ein bod yn denu’r bobl, a’r sefydliadau, a allai elwa fwyaf. Gallai hynny gynnwys cynorthwyo staff sector cyhoeddus ar ddechrau eu gyrfaoedd neu staff sydd â diddordeb mewn symud i rolau digidol.
3. Sut dylem ni dyfu?
Mae angen i ni allu ehangu ein hyfforddiant i fodloni’r galw. Mae’r cyrsiau rydyn ni wedi’u cynnal hyd yma wedi bod am ddim, ond ni fydd hynny’n gynaliadwy i gefnogi’r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r cyrsiau wedi bod yn ddwys i’w gweinyddu – mae angen i ni adolygu’r prosesau hyn ar yr un pryd â diogelu moeseg, preifatrwydd a diogelwch. Mae angen i ni gael ystod o hyfforddiant i weddu i bobl mewn rolau gwahanol. Bydd angen i arweinwyr gael dealltwriaeth fwy strategol o wahanol ffyrdd o weithio, tra bydd angen i aelodau o dimau gael sgiliau mwy ymarferol.
‘Beth sydd nesaf?’
Rydyn ni’n clywed ‘Beth sydd nesaf?’ yn rheolaidd gan fynychwyr cyrsiau. Hoffem ateb y cwestiwn hwnnw trwy ddarparu profiad cydgysylltiedig gydag opsiynau clir sy’n fwy na chwrs arferol.
Mae gennym brototeip mewn golwg o’r gwasanaeth cofleidiol y gallai Campws Digidol ei gynnig, ond rydyn ni’n awyddus iawn i gael eich mewnbwn. Os ydych yn darparu gwasanaeth i sefydliad sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu elusen, hoffem glywed gennych. Rydyn ni eisiau gwybod mwy na pha fath o gyrsiau yr hoffech eu dilyn yn unig. Rydyn ni’n awyddus i ddeall yr heriau sy’n eich wynebu wrth gynnal gwasanaeth a sut gallai ein cymorth eich helpu i symud tuag at fodloni’r safonau gwasanaeth.
Os hoffech gymryd rhan, rhowch wybod i ni ar dysgu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru.
Cofrestrwch ar gyfer nodiadau wythnosol CDPS (crynodeb wythnosol o’r gwaith y mae CDPS yn ei wneud ledled Cymru) trwy anfon neges e-bost at cyfathrebu@gwasanaethaucyhoeddusdigidol.llyw.cymru.