10 Mehefin 2021
Wrth i ni ddatblygu a rhoi ffocws i’n darpariaeth, rydyn ni wedi bod yn meddwl am gymunedau a sut i greu ymgysylltiad ystyrlon. Wrth sôn am gymunedau, rydyn ni wedi bod yn meddwl am y term mewn tair ffordd:
Cymunedau ymarfer – pobl sy’n dod at ei gilydd oherwydd bod ganddynt awydd cyffredin i ddatblygu a/neu wella’r ffordd maen nhw’n gwneud rhywbeth.
Cymunedau diddordeb – pobl sy’n dod at ei gilydd oherwydd eu bod yn rhannu diddordeb mewn pwnc neu frwdfrydedd amdano.
Ymgysylltu â’r gymuned – amlygu a gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael lleisio’u barn wrth ddatblygu a dylunio’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a gwasanaethau cyhoeddus. Gallai’r grwpiau hyn fod yn ddaearyddol neu wedi’u seilio ar achos neu gred.
Cymunedau diddordeb a chymunedau ymarfer
Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cymunedau ymarfer a chymunedau diddordeb o dan un darn o waith. Mae angen i’r cymunedau hyn ddarparu gwerth go iawn, gan ddatblygu cymuned fywiog, ysgogi trafodaeth a chreu ymdeimlad o gyffro ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus digidol, rhannu arfer da a hwyluso twf sgiliau digidol. Rydyn ni wedi dechrau trwy lansio ein cymunedau cyntaf; mae un yn canolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a’r llall ar gyfleu newid digidol. Rydyn ni bellach yn edrych ar y cymunedau nesaf y mae angen i ni eu creu, ac mae’n debygol y bydd y rhain wedi’u seilio ar ein Safonau Gwasanaeth Digidol.
Disgwylir i rai o’r rhain esblygu i ddod yn gymunedau ymarfer a gefnogir gan bennaeth proffesiwn. Ond, ar yr adeg hon, mae’n bwysig ein bod yn creu man lle y gall unrhyw un sydd â diddordeb ddod ynghyd i rannu gwybodaeth a syniadau. Yn y modd hwn, gallwn ymgysylltu â chynulleidfa ehangach a bod mewn sefyllfa well i ddeall yr hyn y mae ei angen o ran proffesiynau digidol yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cael dealltwriaeth well o rywfaint o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud, yr heriau a’r cyfleoedd.
Yn ogystal â chefnogi ein dwy gymuned gyntaf, ein camau nesaf yw:
- amlygu’r cymunedau sy’n angenrheidiol i gefnogi, datblygu a rhannu arfer da ynglŷn â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- datblygu map trywydd ar gyfer datblygu cymunedol
- amlygu’r rolau, y sgiliau a’r galluoedd sy’n angenrheidiol i gefnogi cymunedau parhaus
- sefydlu rhwydwaith o gyfeillion beirniadol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i annog cyd-ddylunio a rhoi adborth gonest ac adeiladol ar y cymunedau sy’n dod i’r amlwg
- defnyddio cymunedau, ymchwil, offer a chynhyrchion sydd eisoes yn bodoli er mwyn dechrau’n gyflym ac osgoi dyblygu’n ddiangen
Ymgysylltu â’r gymuned
Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o waith i amlygu ein grwpiau rhanddeiliaid a chwsmeriaid, mae gennym ragor i’w wneud i amlygu a gweithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru i sicrhau eu bod yn cael lleisio’u barn wrth ddatblygu CDPS a gwasanaethau cyhoeddus. Gallai’r grwpiau hyn fod yn ddaearyddol neu wedi’u seilio ar achos neu gred.
I gefnogi hyn, rydyn ni newydd ddechrau darn o waith gyda Co-production Network for Wales i:
- ddeall y gwaith a wnaed hyd yma a’r bylchau yn ein dealltwriaeth
- amlygu’r cymunedau sy’n bodoli yng Nghymru, eu diben a’u diddordebau
- mapio’r rhain yn erbyn gwaith CDPS i amlygu’r meysydd diddordeb a rennir ynglŷn â darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- amlygu’r grwpiau blaenoriaeth ar gyfer ein hymgysylltiad cychwynnol
- amlygu a sefydlu cynllun ymgysylltu ar gyfer y grwpiau blaenoriaeth a nodwyd
Wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, byddwn yn cyhoeddi mwy o flogiau ynglŷn â’n canfyddiadau a’r camau nesaf. Os hoffech gael gwybod mwy am y gwaith hwn neu ymuno ag un o’n cymunedau, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.