12 Ionawr 2021
Ymrwymiad i gefnogi digidol yng Nghymru
Yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22, cyhoeddodd Rebecca Evans fod £4.9m o gyllid wedi cael ei ddyrannu i CDPS ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn newyddion gwych i wasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru.
Mae cyfle cyffrous iawn ar gael bellach i adeiladu ar chwe mis cyntaf CDPS. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a’n rhwydwaith o bartneriaid, cyflenwyr a rhanddeiliaid sy’n tyfu’n barhaus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da, cynhwysol a hygyrch a sicrhau bod y bobl sy’n dylunio a darparu’r gwasanaethau yn meddu ar y sgiliau, y gallu, yr uchelgais a’r cymorth iawn.
Beth rydym wedi’i wneud hyd yma
Ers lansio, mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- ‘sgwad ddigidol’ i weithio gyda thri awdurdod lleol i hwyluso’r broses o gael mynediad at ofal cymdeithasol i oedolion
- darparu cyrsiau ymwybyddiaeth o dechnoleg ddigidol a dylunio gwasanaethau i fwy na 100 o gydweithwyr sector cyhoeddus ac aelodau etholedig
- dechrau ffurfio cymuned gwasanaethau cyhoeddus digidol a chynnal seminarau rhannu gwybodaeth rheolaidd.
Bu brwdfrydedd mawr, heriau, a llawer o geisiadau i ni wneud mwy na’n cylch gorchwyl gwreiddiol ar gyfer y cam Alffa. Ac uwchlaw popeth, mae’r ymgysylltiad a’r gefnogaeth wedi bod yn wych. Mae’r fflam ynghynn!
Nesaf
Rydym wrthi’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond rydym yn gwybod y bydd:
- llawer mwy o sgwadiau digidol, yn gweithio gyda phob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Byddant yn dylunio gwasanaethau a arweinir gan ddefnyddwyr, yn defnyddio dulliau ystwyth, gyda chymorth arbenigwyr digidol, ac yn uwchsgilio’r timau a’r sefydliad
- mwy o hyfforddiant, a fydd yn cynnwys mwy o hyfforddiant i arweinwyr sector cyhoeddus, cyrsiau hyfforddi proffesiwn digidol unigol, cyfleoedd i gysgodi’r sgwadiau digidol a gweithio gydag addysg ar bob lefel i sicrhau cyflenwad o dalent ddigidol yng Nghymru
- creu cymunedau ymarfer ledled Cymru a thu hwnt. Rydym eisiau annog proffesiynau gwahanol i ddysgu gyda’i gilydd a rhannu profiadau a gwybodaeth. Rydym yn cynnwys gweithrediadau, polisi, cyllid, Adnoddau Dynol/pobl a chaffael yn y cymysgedd hwnnw. Byddwn hefyd yn parhau i gynnal a chymryd rhan mewn sesiynau rhannu gwybodaeth ac yn cydweithio ar safonau ar gyfer dylunio, technoleg, iaith ac ati
- helpu i gysylltu gweithgareddau digidol ledled Cymru a dysgu o’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd
Ac o safbwynt personol
A minnau’n rhywun sydd wedi bod yn hyrwyddo gwasanaethau cyhoeddus digidol da, pobl a chanddynt sgiliau priodol, cynhwysiant a’r dyluniad sefydliadol iawn ar gyfer darparu gwasanaethau digidol ers 20 mlynedd, a rhywun sy’n byw yng Nghymru ac yn caru’r wlad, rwy’n falch iawn o fod yn arwain CDPS fel Prif Swyddog Gweithredol dros dro. Mae llawer i’w wneud yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, fel cynllunio, rhoi’r tîm at ei gilydd, llawer o gaffael, trefnu prosesau llywodraethu, mesurau effaith ac ati. Ac, wrth gwrs, parhau â’r gwaith rydym eisoes wedi’i ddechrau.
Ond mae’n gyffrous iawn. Rydym wedi gweithio gyda phobl wych hyd yma sydd eisoes wedi cael effaith yn eu sefydliadau ac mae llawer mwy i ddod.
Gallwch ddilyn ein cynnydd trwy ein blog neu gysylltu â ni trwy info@digitalpublicservices.gov.wales