Yn ein blog blaenorol buom yn crynhoi cam cyntaf y cam alffa yn archwilio sut y dylai asesiadau gwasanaeth weithio yng Nghymru – mae ymchwil defnyddwyr yn greiddiol wrth wraidd hynny.
Dan arweiniad Gabi Mitchem-Evans, deilliodd o'n hymchwil themâu clir a mewnwelediadau ymarferol i lywio'r hyn sy'n digwydd nesaf.
Buom yn siarad â:
5 aelod o dîm gwasanaeth
1 x arweinydd
1 x Siaradwr Cymraeg
pobl sydd ag amrywiaeth o brofiadau gydag asesiadau gwasanaeth ac o wahanol sectorau megis cyrff hyd braich, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a llywodraeth ganolog
Dyma beth rydyn ni wedi'i ddysgu...
1. Mae paneli profiadol yn bwysig, ac mae cyd-destun Cymru yn cyfrif
Mae timau eisiau aseswyr sydd â phrofiad ymarferol o Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru, ac yn ddelfrydol, dealltwriaeth glir o wasanaethau Cymraeg. Mae'r “pwy” yn llai pwysig na'r “sut” – rhaid i baneli deimlo'n gredadwy, yn gefnogol ac yn berthnasol.
2. Gall iaith roi siâp i brofiad
Dywedodd llawer o ddefnyddwyr blaenorol bod asesiadau yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu “beirniadu”. Mewn cyferbyniad, roedd ein dull gweithredu yng Nghymru yn teimlo'n debycach i gymorth cymheiriaid - rhywbeth i fagu hyder, nid chwalu hyder. Gallai newid syml, ei alw yn “adolygiad” o bosib yn hytrach nag “asesiad”, helpu i osod naws fwy adeiladol o'r cychwyn cyntaf.
“[Ni ddylai] ein beirniadu dylai gynnig cymorth a chefnogaeth. Sicrwydd. Nid y bwriad yw beirniadu”
3. Gallai adolygiadau hunan-arweiniol leddfu unrhyw ofn sydd gan ddefnyddwyr
Mae diddordeb gwirioneddol mewn llunio rhestrau gwirio ac offer hunanasesu – yn enwedig ar gyfer timau yn gynnar yn y broses. Gallai'r rhain helpu timau i baratoi, adnabod bylchau, a theimlo'n fwy hyderus cyn mynd ati i gynnal adolygiad ffurfiol.
4. Sut olwg fyddai ar lwyddiant
Mae timau yn gofyn am enghreifftiau o wasanaethau llwyddiannus – astudiaethau achos sy'n dangos sut mae eraill wedi bodloni'r safonau, sut olwg sydd ar hynny yn ymarferol, a sut y llwyddwyd i oresgyn heriau.
5. Dyw un dull ddim yn addas i bawb
Nid yw pob tîm yn dilyn y model darganfod - alffa - beta - byw. Mae rhai angen cefnogaeth yn gynnar; eraill cyn lansio. Mae angen i'n proses fod yn ddigon hyblyg i fynd i gwrdd â thimau.
6. Gall adolygiadau gwasanaeth gryfhau atebolrwydd cyflenwyr
Dywedodd rhai timau wrthym y gallai adolygiadau eu helpu i wirio ansawdd gwaith allanol - gan sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei ddarparu yn bodloni disgwyliadau a safonau, yn enwedig lle mae goruchwyliaeth fewnol yn fwy cyfyngedig.
7. Dylai cynlluniau gweithredu fodoli gyda thimau
Roedd timau yn ei weld fel eu cyfrifoldeb i weithredu ar argymhellion yr adolygiad - gyda pherchnogion cynnyrch neu wasanaeth yn arwain y ffordd. Ond er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae angen i asesiadau alinio â'r prosesau mewnol a llywodraethu presennol.
8. Gwneud hi'n hawdd dod o hyd i a gofyn am adolygiad
Ar hyn o bryd, mae'n anodd dod o hyd i ganllawiau asesu gwasanaeth ar-lein. Roedd ein ffurflen gais prototeip yn llwyddiannus ac mae cefnogaeth gref i sefydlu un man amlwg ar wefan CDPS i ddysgu am a gofyn am adolygiad.
Beth sydd nesaf
Rydym ar fin dechrau ar ein hail arbrawf , lle byddwn yn archwilio:
yn ystod pa gam y mae adolygiadau cylch bywyd prosiect yn fwyaf defnyddiol
beth yw'r deunyddiau mwyaf defnyddiol a ddylai fod ar gael
sut mae adolygiadau'n cyd-fynd â llywodraethu presennol
Cymryd rhan
Os ydych yn arwain darpariaeth ddigidol yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein hymchwil, a helpu i lunio gwasanaeth sy'n gweithio i chi.
Defnyddiwch y ddolen i gofrestru i gymryd rhan yn yr ymchwil:
Cynhelir ein sesiwn dangos a dweud nesaf ddydd Iau 4 Medi – cadwch eich lle nawr.