Beth ydyn ni'n ceisio ei gyflawni?

Mae ein gweledigaeth yn syml ond yn uchelgeisiol:

“Cymru lle mae Safonau yn ei gwneud hi'n haws dylunio gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol.”

Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, mae CDPS yn archwilio sut i ddylunio, gweithredu a graddio model Asesu Gwasanaeth sy'n barod ar gyfer y dyfodol ar gyfer gwasanaethau sector cyhoeddus yng Nghymru; model gwasanaeth sydd â Safonau Gwasanaethau Digidol Cymru wrth ei wraidd.

Cwrdd â'r tîm alffa

Caiff y cam alffa ei arwain gan dîm bach, ystwyth yn CDPS. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi mae'r tîm yn cynnal cyfres 3 arbrawf gyda ffocws clir ar:

  • diffinio'r gwasanaeth o'i ddechrau i'w ddiwedd
  • penderfynu sut y dylid ei roi ar waith
  • nodi'r rolau sydd eu hangen i'w gefnogi'n effeithiol

Yr hyn a wnaethom ni

Roedd Arbrawf 1 yn ymwneud ag archwilio “pam” a “sut” asesiadau gwasanaeth. Roeddem am archwilio pa gynnwys sydd ei angen o amgylch y cynnig Asesiad Gwasanaeth fel bod pobl yn deall pwrpas a gwerth Asesiadau Gwasanaeth ac yn cael eu hannog i gysylltu â CDPS i drefnu i gynnal asesiad. Roeddem hefyd eisiau deall y disgwyliadau ynghylch pwy ddylai fod yn berchen ar y gwasanaeth a'i weithredu.

Gwnaethom ddefnyddio rhagdybiaeth i gyfeiriadu a mesur ein harbrawf:

Rhagdybiaeth: Os yw Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn darparu cynnig Asesiad Gwasanaeth clir a hygyrch ac yn berchen ar y broses asesu, bydd timau yn deall gwerth asesiadau ac yn cofrestru i gael sicrwydd eu bod yn dylunio gwasanaethau yn y ffordd iawn.

Y Dull: Creu prototeip ar gynnig Asesiad Gwasanaeth allanol sy'n wynebu ac yn profi dealltwriaeth defnyddwyr, canfod y gwerth ac ymddiriedaeth.

Mesur llwyddiant:

  • Mae 5-10 o bobl yn clicio ar y botwm i gofrestru gan ddefnyddio'r prototeip
  • dengys adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr ei fod yn eglur, mae ganddo werth canfyddedig, ac maent yn ymddiried yn CDPS

Gwnaethom siarad â chroestoriad eang o bobl sy'n darparu gwasanaethau i drigolion yng Nghymru a defnyddio ein prototeip i gynnal ymchwil gyda 6 o bobl ac i ddilysu ein rhagdybiaeth. 

Gwnaethom ddilysu ein rhagdybiaeth

“Sic [byddai] byddai perchennog fy nghynnyrch presennol yn eithaf awyddus i gymryd rhan gan y byddai am gael adborth a chyngor i weld a ydym ar y trywydd iawn.”

  • Roedd pawb y buom yn siarad â nhw yn awyddus i gael cyfle i asesu eu gwasanaeth mewn rhyw fodd ac yn cofrestru ar gyfer asesiad. 
  • Y farn gyffredinol oedd bod cynnal math o adolygiad yn fwy priodol ar gyfer cyd-destun Cymru na wasanaeth asesu pasio neu fethu Llywodraeth y DU. Mae'r llawer iawn o werth mewn canfod a yw'r Safon unigol yn cael ei ddiwallu/ddim yn cael ei ddiwallu.
  • Y dewis yw proses asesu a gydlynir yn ganolog. Mae CDPS mewn sefyllfa dda i fabwysiadu'r rôl o gydlynu'r broses gan gynnwys dod a phanel o aseswyr profiadol ynghyd.
  • Roedd dealltwriaeth dda o asesiadau gwasanaeth, pam mae eu hangen a'r gwerth a ddaw yn eu sgil.

“Gall SIC [nhw] ddweud ein bod ni'n rhyddhau gwasanaeth sy'n glynu wrth Safonau Cymru”

Os hoffech chi wybod mwy am yr hyn y gwnaethom ei ddysgu yn sgil cynnal yr arbrawf hwn, gwyliwch fideo o'n sesiwn dangos a dweud

Beth nesaf?

Bydd y tîm nawr yn symud ymlaen i arbrawf cam alffa 2, gan archwilio'n ddwfn i fodelau gweithredol a phecynnau cymorth posibl i gefnogi asesiadau. 

Cymryd rhan

Rydym yn chwilio am bobl i ymuno a ni i gynnal ymchwil.

Byddem wrth ein bodd yn siarad â chi os ydych yn arwain trawsnewid digidol yn eich sefydliad neu adran, neu'n arweinydd sydd â diddordeb mewn asesiadau gwasanaeth neu yn eu hyrwyddo.

I gofrestru i gymryd rhan yn yr ymchwil, cliciwch ar y ddolen.

Ffurflen Gymraeg