An image of the 'Access for All' book with both the English and Welsh covers

Bydd llyfr newydd sy’n cynnig arweiniad ar ddylunio digidol hygyrch yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a Phrifysgol Caerdydd.  

Yn ystod y digwyddiad lansio ym Mhabell Llywodraeth Cymru, bydd arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus, lleisiau pobl â phrofiad byw ac arbenigwyr pwnc yn dod at ei gilydd i drafod pwysigrwydd hygyrchedd. Bydd y themâu sy’n cael eu trafod yn y sesiwn yn cynnwys sut mae iaith glir, dyluniad cynhwysol a thechnoleg yn gallu bod o gymorth er mwyn trawsnewid gwasanaethau a’u gwneud yn addas i bawb, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg.     

Mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru, wedi ysgrifennu’r rhagair i’r llyfr ac yn dweud: “Nid yw gwasanaethau cyhoeddus nad ydyn nhw’n hygyrch nac yn gynhwysol yn gallu cael eu galw’n ‘gyhoeddus’. Mae angen i’r gwasanaethau hyn fod ar gael i bawb.   

“Yng Nghymru, ein nod yw darparu gwasanaethau o safon uchel sydd ar gael i bawb bob amser. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod hyn, yn enwedig yn ein nod i greu Cymru fwy cyfartal ac yn y ffordd rydym yn disgwyl i gyrff cyhoeddus ymddwyn.   

“Yn anffodus, nid ydym wedi cyrraedd y lle rydym yn anelu ato eto. Mae gormod o bobl yn dal i deimlo fel nad ydyn nhw’n gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. A’r rheiny sydd â’r angen i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus fwyaf sydd fel arfer yn cael eu heithrio fwyaf.”  

Yn y llyfr, mae nifer o bobl gydag anableddau yn rhannu eu profiadau o geisio cael mynediad at wasanaethau digidol. Roedd un wedi colli ei olwg yn 2009 ac ers hynny mae’n teimlo nad ydy gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru yn gweithio iddo.     

Dywedodd: “Gydag anghenion ychwanegol, rydych yn gorfod buddsoddi dwbl, neu weithiau dair gwaith yr amser i wneud tasg o’i gymharu â rhywun arall. Ac mae hynny os ydych chi’n gallu ei gwblhau o gwbl.   

“Roedd un profiad tebyg tra roeddwn i’n defnyddio ap y cyngor lleol, oedd yn cael ei hyrwyddo fel un hawdd ei ddefnyddio a hygyrch. Nid dyna fy mhrofiad i. Ro’n i’n gallu cofrestru ond nid oeddwn i’n gallu cwblhau tasgau. Nid oeddwn i’n gallu llenwi’r ffurflen, a oedd yn golygu nad oeddwn i’n gallu gorffen y broses.”   

Mae cyfrannwr arall i’r llyfr yn trafod ceisio llywio hygyrchedd digidol fel person niwrowahanol. Dywedodd: “Mae pobl yn aml yn tybio fod hygyrchedd yn golygu anableddau corfforol, ond mae hygyrchedd gwybyddol yr un mor hanfodol.  

“I mi, byddai byd digidol sydd wir yn gynhwysol yn un lle nad ydw i’n cael trafferth wrth ddod o hyd i eglurder, ble nad yw hygyrchedd yn ystyriaeth ar ddiwedd proses a lle mae gwasanaethau digidol yn ymbweru yn hytrach nag achosi poen meddwl.”  

Yn ddiweddar, cynhaliodd CDPS brosiect ymchwil i archwilio cyflwr hygyrchedd digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Canfu’r ymchwil rai enghreifftiau o arfer da, ond hefyd amlygodd heriau mawr - gan gynnwys diffyg eglurder o ran gorfodi safonau, diffyg sgiliau mewnol, a hygyrchedd gwael mewn llawer o gynnyrch gan gyflenwyr trydydd parti. 

Gan adeiladu ar y canfyddiadau hynny, mae’r llyfr Mynediad I Bawb yn cynnig ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion hyn. Wedi’i ysgrifennu gan Joanna Goodwin, Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn CDPS, a Fernando Loizides, Darllenydd mewn Cyfrifiadureg ac Addysgeg Wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r llyfr yn rhannu straeon bywyd go iawn, arferion gorau o’r byd, ac arweiniad y gellir ei roi ar waith i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gynllunio profiadau digidol mwy hygyrch. 

Joanna Goodwin and Fernando Loizides holding copies of the Access for All books.

Dywedodd Joanna Goodwin, Pennaeth Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn CDPS: “Y tu ôl i bob cynnyrch, pob gwasanaeth, a phob polisi, mae pobl go iawn sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau a wnawn. Mae’r straeon yn ein llyfr yn ein herio i feddwl yn wahanol, gwrando’n fwy gofalus, a chynllunio gyda chydymdeimlad. 

“Pan wnawn hynny, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Cymerwch is-deitlau ar fideos. Fe’u cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl â nam ar eu clyw, ond erbyn hyn cânt eu defnyddio gan unrhyw un sy’n gwylio fideos mewn mannau swnllyd, mewn swyddfeydd tawel, neu wrth ddysgu iaith newydd. Mae dylunio ar gyfer pobl ag anghenion mynediad yn gwella’r profiad i bawb. 

“Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru yn mynnu ein bod yn sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio ein gwasanaethau. Nid polisi yn unig mo hyn – mae’n orfodaeth foesol sydd wedi’i gwreiddio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae ein llyfr newydd, sy’n cael ei lansio heddiw gyda Phrifysgol Caerdydd, yn fwy na chanllaw – mae’n alwad i weithredu.” 

Dywedodd Joanna: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canllaw newydd hwn yn rhoi safbwynt newydd i bobl ar bwysigrwydd cynllunio ar gyfer hygyrchedd, ac yn adnewyddu’r ffocws ar roi cynhwysiant wrth wraidd datblygiad eich cynnyrch a’ch gwasanaeth.” 

Ychwanegodd Fernando: “Mae deall hygyrchedd yn hanfodol oherwydd mae’n ffurfio’r sail i bopeth sy’n dilyn. Heb ddealltwriaeth gyffredin o’r hyn y mae’n ei olygu a pham mae’n bwysig, ni allwn obeithio adeiladu byd sy’n gweithio i bawb.”

Mae’r llyfr ar werth yn Lulu.

Mae e-lyfr am ddim ar gael ar Lulu.