Trosolwg

Roedd ein canfyddiadau o'n darganfyddiad yn glir: mae'r system ar gyfer atgyfeiriadau a chefnogaeth niwrowahaiaeth wedi'i llethu, yn aneffeithlon, ac mae'n cymryd gormod o amser. 

Dywedodd pobl wrthym eu bod angen cefnogaeth yn gynharach, nid dim ond ar adeg y diagnosis. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu ond eu bod yn blino o dan bwysau'r galw cynyddol, prosesau aneffeithlon ac offer sydd wedi dyddio.  

Prif argymhelliad ein darganfyddiad oedd archwilio opsiynau ar gyfer cynnyrch casglu gwybodaeth ddigidol a fyddai'n mynd i'r afael ag anghenion defnyddwyr a phroffesiynau a nodwyd yn y darganfyddiad.  

Er bod gennym ni gynnyrch eisoes wedi'i nodi, sylweddolon ni'n gyflym, er mwyn gwneud argymhellion da, ac adeiladu ar y gwerthusiad cynharach o offer digidol, fod angen i ni fapio'r daith gwasanaeth lawn, deall anghenion defnyddwyr rheng flaen, ac archwilio ble gallai dulliau digidol gefnogi newid yn ystyrlon - a ble na allant.   

Yr hyn a wnaethom

Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar y bobl sy'n darparu gofal: arweinwyr clinigol, therapyddion, staff gweinyddol, a rheolwyr gweithredol ar draws pedwar bwrdd iechyd. Drwy gyfweliadau, gweithdai ac ymweliadau â safleoedd, fe wnaethon ni feithrin dealltwriaeth gliriach o sut mae gwasanaeth niwrowahanol plant yn teimlo o'r tu mewn. 

Fe wnaethon ni greu mapiau gwasanaeth, olrhain pwyntiau pryder ac arloesedd sydd eisoes yn bodoli, a chatalogio'r dechnoleg sy'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd. Roedd hyn yn caniatáu inni gynhyrchu darlun manwl o'r llwybr o'r dechrau i'r diwedd, o atgyfeirio a brysbennu i asesu, diagnosis, a chymorth ôl-ddiagnostig. Fe wnaethon ni hefyd fapio ble mae technoleg yn dod i rym, a ble mae'n creu dyblygu, oedi neu ofid.

Fe wnaethon ni siarad yn uniongyrchol â chyflenwyr ac awdurdodau lleol sy'n treialu technolegau newydd, gan gynnwys cofnodion digidol, ysgrifenyddion deallusrwydd artiffisial, ac offer olrhain llwybrau, er mwyn deall beth sy'n bosibl a ble mae'r bylchau.

Yr hyn a ganfuom

Yr hyn a ganfuom yw system dan straen sylweddol. Mae gweithwyr proffesiynol ymroddedig yn gwneud eu gorau o fewn strwythurau dameidiog a gorlwythog. Mae llawer o wasanaethau'n dibynnu ar atebion dros dro, nodiadau ysgrifenedig â llaw, a thaenlenni personol i bontio bylchau a adawyd gan systemau digidol sy'n tanberfformio neu sydd wedi'u hintegreiddio'n wael. Er bod offer digidol yn addawol, rhaid i'w defnydd fod yn feddylgar ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr neu maent mewn perygl o ychwanegu at y baich.  

Gwelsom fod systemau gorfodol yn aml yn anodd eu defnyddio, gan arwain at fabwysiadu isel a dibyniaeth eang ar ddewisiadau amgen â llaw.  

Daeth ychydig o themâu clir i’r amlwg:  

  • ni all technoleg drwsio system heb ei deall yn gyntaf 
  • mae pobl yn cael eu hymestyn wrth geisio darparu gofal moesegol mewn system a sefydlwyd i'w wrthsefyll 
  • mae cyflenwyr yn amrywio'n fawr yn eu gallu i gefnogi atebion ystyrlon a hyblyg.   

Yn bwysach, profodd y weithred o fapio'r llwybr gwasanaeth llawn ei hun yn drawsnewidiol - gan ddatgelu heriau cudd, camliniadau, a chyfleoedd ar gyfer newid mwy cydlynol. 

Beth nesaf

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid tuag at welliannau go iawn, byw mewn gwasanaethau niwrowahanol yng Nghymru wrth i ni symud i'n cyfnod Beta o waith.

Clywch gan Sian ein Prif Swyddog Cyfrifol yn Llywodraeth Cymru am y darganfyddiad a'r alpha:

Cofrestrwch ar gyfer diweddariadau prosiect a gwahoddiadau i'n sesiynau dangos a dweud