Bydd John-Mark Frost (JM), Samina Ali ac Andrea Gale yn parhau â'u gwasanaeth ar y Bwrdd, gyda John-Mark yn cymryd rôl y Cadeirydd dros dro.
Mae JM, sydd wedi gwasanaethu ar y Bwrdd am dair blynedd ac wedi cadeirio'r Pwyllgor Archwilio a Risg ers 2024, gyda arbenigeyddd helaeth mewn trawsnewid a llywodraethu. Yn dilyn gyrfa 15 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil fel Cyfarwyddwr Cyflawni Trawsnewid yn Nhŷ'r Cwmnïau, mae bellach yn gwasanaethu fel uwch gyfarwyddwr yn y BBC, ac yn gyfrifol am weithredu eu Hadolygiad Diwylliant Gweithle.
Pan yn siarad am ei benodiad, dywedodd JM:
“Wrth i ni gychwyn ar gam nesaf CDPS, rwy’n wirioneddol gyffrous am y cyfle i hyrwyddo gwasanaethau digidol sy’n rhoi’r defnyddiwr wrth galon yr hyn a wnawn. Yn wyneb yr amgylchiadau economaidd heriol sydd ohoni, mae gwasanaethau digidol wedi’u dylunio’n dda yn cynnig y fantais ddwbl o wella profiadau pobl, tra’n sicrhau effeithlonrwydd hanfodol ar yr un pryd.
Gan fy mod i wedi tyfu i fyny yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, rwy’n ymwybodol iawn nad cyfleustra’n unig yw gwasanaethau digidol da. I lawer o gymunedau yng Nghymru, maen nhw’n bont hanfodol at gyfleoedd, gofal iechyd, addysg a gwasanaethau llywodraethol.
Nid technoleg yn unig yw trawsnewid digidol. Mae’n ymwneud â chreu gwasanaethau sy’n gweithio i bawb, ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru yn cynnig fframwaith cadarn i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio o amgylch anghenion gwirioneddol pobl, yn hytrach na strwythurau sefydliadol.
Mae'n fraint gen i ymgymryd â rôl Cadeirydd CDPS, sefydliad sy’n hyrwyddo dulliau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn cefnogi ein sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau gwell, mwy hygyrch i bob dinasydd yng Nghymru."
Diolchodd Harriet Green, cyd-brif weithredwr CDPS, i’r Cadeirydd, Sharon Gilburd, ac i aelod y Bwrdd, Ben Summers wrth i’w cyfnod ddod i ben.
Hoffwn fynegi fy niolch diffuant i Sharon a Ben am eu harweiniad gwerthfawr a’u cyfeiriad strategol dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae eu cyfraniadau wedi bod yn allweddol wrth i CDPS ddod yn sefydliad blaenllaw mewn trawsnewid digidol ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer tri swydd arall ar y Bwrdd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a manylion y broses ymgeisio ar wefan Llywodraeth Cymru.