"Rydym yn credu y dylai dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwych yng Nghymru fod yn haws ac yn fwy ysbrydoledig! Gwasanaethau sy'n ddibynadwy, cynhwysol, ac yn wirioneddol wedi'u siapio o amgylch anghenion y bobl sy'n eu defnyddio bob dydd."

Mae ein Pennaeth Safonau a Chynhyrchion parhaol newydd, Jemima Montieth-Thomas, yn amlinellu ei gweledigaeth i wella gwasanaethau ledled Cymru. 

Mae Safon Gwasanaeth Digidol Cymru yn chwarae rôl allweddol ac mae'n asgwrn cefn sut y gall gwasanaethau ddiwallu anghenion y rhai sy'n eu defnyddio. Mae'r Safon yn set o ddeuddeg egwyddor arweiniol sy'n helpu i osod y sefyllfa ar gyfer sut olwg sydd ar wasanaethau cyhoeddus da yng Nghymru. Rhennir yr egwyddorion hyn yn dair adran: diwallu anghenion defnyddwyr, creu timau digidol a defnyddio'r dechnoleg gywir. 

Nid oes ots ym mha ran o'r sector cyhoeddus y mae eich gwasanaeth, ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth, neu a yw'n fawr, bach neu'n rhywle yn y canol – os ydych chi'n ei ddylunio i fodloni'r Safon, gallwch fod yn hyderus eich bod chi'n creu gwasanaeth da sy'n hygyrch ac yn hawdd i bobl yng Nghymru ei ddefnyddio. 

Mae'r Safon hefyd yn rhan hanfodol o sut y gallwn gyflawni'r nod a nodir yn y Strategaeth Ddigidol i Gymrui ddarparu a moderneiddio gwasanaethau fel eu bod wedi'u cynllunio o amgylch anghenion defnyddwyr mewn ffordd syml, diogel a chyfleus.

Ble rydyn ni ar hyn o bryd

Er nad yw safonau gwasanaeth yn gysyniad newydd, mae dal yn fenter eitha’ newydd yma yng Nghymru. Mae hynny'n gyffrous serch hynny - mae'n rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddysgu o'r hyn y mae gwledydd eraill wedi'i wneud a'i siapio i wneud iddo weithio i ni, gan wneud yn siŵr ein bod yn dysgu ac yn addasu'n barhaus yn seiliedig ar adborth defnyddwyr (yn unol ag egwyddor 8 y Safon!). 

Yn y pen draw, rydym am i'r holl wasanaethau yng Nghymru, newydd a phresennol, fodloni'r Safon. Ond rydyn ni'n gwybod bod gennym lawer o waith i'w wneud cyn i ni gyrraedd yno. 


Am y tro, y nodau allweddol yw:

  1. sicrhau bod pobl sy'n dylunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwybod am y Safon ac yn deall ei werth a sut y gallant ei defnyddio
  2. parhau i greu canllawiau ac adnoddau hawdd eu dilyn a fydd yn helpu pobl i ddeall sut i fodloni'r Safon sy'n cynnwys ehangu'r Llawlyfr Gwasanaeth fel ei fod yn darparu canllawiau ar fodloni pob un o'r 12 egwyddor o'r Safon
  3. adeiladu uchelgais ar y cyd ar draws arweinwyr y sector cyhoeddus i fodloni'r Safon ar draws yr holl sefydliadau a gwasanaethau yng Nghymru
  4. datblygu Asesiadau Gwasanaeth yng Nghymru fel y gall timau gael adborth ac arweiniad gan eu cyfoedion a fydd yn ein helpu i sicrhau ansawdd y gwasanaethau a'u mesur yn erbyn y Safon
  5. rhannu dysgu a chael adborth drwy Gymunedau Ymarfer, Asesiadau Gwasanaeth a thrwy weithio yn agored (egwyddor 9 y Safon!)
  6. parhau i weithio gyda Bwrdd Safonau Digidol a Data Cymru i ehangu'r catalog o safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer Cymru – rydym eisiau helpu pobl i ddeall pa safonau eraill sy'n berthnasol wrth ddylunio a darparu gwasanaethau sector cyhoeddus a chefnogi mwy o gysondeb ac ansawdd ar draws y sector

 

Sut allwch chi helpu

Mae'r holl waith a wnawn yn CDPS yn cael ei ategu gan y Safon, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu'r ysgogiad a'r gefnogaeth sydd eu hangen i wneud hyn yn realiti ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain – mae angen eich help arnom i:

  1. dechreuwch siarad am y Safon - dywedwch wrth eich cydweithwyr a rhannwch ar draws eich rhwydweithiau
  2. dechreuwch ddefnyddio'r Safon – boed hynny'n meddwl am sut y gallech ystyried un neu ddau o bwyntiau neu ymrwymo'n llwyr
  3. gweithiwch yn agored – dyma un o ddeuddeg egwyddor y Safon ac mae'n ffordd bwysig o rannu ein dysgu
  4. Ymunwch ag un o'n Cymunedau Ymarfer

    Ac yn olaf, byddem wrth ein bodd yn clywed eich meddyliau a'ch adborth am y Safon a'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, felly cysylltwch â ni drwy e-bostio standards@digitalpublicservices.llyw.cymru