Ar gyfer pwy mae'r gymdeithas hon

Mae'r gymuned draws-sector hon yn dod â gweithwyr proffesiynol data ar draws sector cyhoeddus Cymru ynghyd er mwyn: 

  • rhannu atebion i heriau data cyffredin 
  • meithrin cysylltiadau ag arbenigwyr data eraill 
  • dysgu gan arweinwyr technegol ar draws sefydliadau 
  • cyfnewid arbenigedd ar offer a thechnolegau 

Rydym wedi llunio'r polisi hwn yn benodol ar gyfer: 

  • gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda data ar gyfer dadansoddi, ystadegau, gwyddor data, peirianneg data, awtomeiddio neu BI 
  • y rheini sydd â diddordeb mewn sut mae cyfoedion yn mynd i'r afael â heriau data ar draws sector cyhoeddus Cymru 
  • arweinwyr technegol sy'n barod i gefnogi rhannu gwybodaeth gymunedol ehangach 

Pryd ydyn ni’n cwrdd

Y pedwerydd dydd Iau ym mhob mis am 2pm ar Microsoft Teams.

Ein diwylliant

Bydd lefelau amrywiol o ddealltwriaeth am ddata yn y gymuned, a bydd rhai sefydliadau'n fwy cyfarwydd â'r maes nag eraill.

Dylai aelodau o'r gymuned bob amser drin ei gilydd â pharch a bod yn:

  • adeiladol 
  • cymwynasgar 
  • cefnogol 
  • yn dangos dealltwriaeth

Y cymunedau ymarfer gorau yw'r rheini lle mae pobl yn teimlo'n gyffyrddus yn rhannu problemau gwirioneddol yn gyfrinachol. Rydym yn blaenoriaethu creu deialog barchus a chefnogi pobl i weithio gyda'i gilydd. Byddem wrth ein bodd pe baech yn cymryd rhan. 

Arweiniad cymunedol

Caiff ein cymuned ei harwain gan grŵp llywio:

  • Cadeirydd: Imran Roper, Cynghorydd Technoleg Strategol, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir Cymru 
  • Is-gadeirydd: Lee Coates, Cyngor Caerdydd 
  • Rob Pascoe, Data Cymru 
  • Steven Hopkins, Uned Gwyddor Data, Llywodraeth Cymru 
  • Alun Bowen, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol 

Ymunwch â'r gymuned