Rydym wedi bod yn archwilio sut mae tasgau cyffredin fel ymgeisio, archebu a chofrestru yn ymddangos ar draws gwasanaethau cyhoeddus - a sut y gallwn eu gwneud yn syml ac yn gynt i dimau sy'n eu hadeiladu, ac yn fwy cyson i ddefnyddwyr.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn:
- esbonio'r gwaith rydyn ni wedi'i wneud hyd yma
- dangos sut rydyn ni'n defnyddio dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
- rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o brofi ac ymchwil
- cynnal gweithgaredd ymarferol byr
- rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a rhoi adborth
P'un a ydych chi'n ddylunydd, datblygwr, dylunydd cynnwys neu berchennog gwasanaeth, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu chi i’r sioe dangos a dweud.