Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn trawsnewid y ffordd rydym yn byw, gweithio ac yn cyflwyno gwasanaethu cyhoeddus- ond beth mae hyn yn ei olygu i Gymru? 

Yn ein digwyddiad Dolenni Digidol nesaf ar 4 Mehefin yn Wrecsam, byddwn yn gadw AI o dan y chwyddwydr, gan ddadorchuddio’r cyfleoedd mae’n ei gyflwyno i wasanaethau cyhoeddus yn ganolbarth a’r gogledd Cymru gan ymdrin â’r heriau a ddaw yn ei sgil. 

Trwy gyfres o astudiaethau achos rhanbarthol, byddwn yn archwilio sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ar draws gwahanol. Bydd yr enghreifftiau hyn o fywyd go iawn yn dangos sut mae AI yn gyrru arloesedd tra’n parhau i gyd-fynd a gwerthoedd unigryw Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Fel arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus mae gennym gyfrifoldeb i ddefnyddio AI mewn ffordd sy’n foesegol, yn gynaliadwy, ac yn fuddiol i bawb. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnig trafodaeth agored ac ymarferol am yr hyn sydd eisioes yn digwydd yn lleol, yr hyn sydd ar y gorwel a sut y gallwn gyd-weithio i lywio rol AI o fewn gwasanaethau cyhoeddus. 

Ymunwch a ni i gysylltu, dysgu ac arwain y trafodaethau am AI yng Nghymru. 

Ynglyn a Dolenni Digidol  

Mae Dolenni Digidol yn gyfres rhwydweithio cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer uwch arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, sy’n hyrwyddo dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a Safon Gwasanaeth Digidol. Mae digwyddiadau personol fel hyn yn darparu cyfle i arweinywr gysylltu, rhannu mewnweliadau, a thrafod heriau gwasanaeth cyhoeddus drwy drafodaethau agored.  

Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal gan CDPS ac yn cael eu cadeirio gan ein huwch dim arwain, ac mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru bob yn ail fis. Er mwyn sicrhau hygyrchedd a chynwysoldeb rydym yn ffrydio ein sesiynau’n fyw, gan wahodd cynulleidfa ehangach i ymgysylltu.