Llwyddodd digwyddiad Dolenni Digidol yr wythnos diwethaf, “Dadansoddi Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Arweinwyr Gwasanaethau Cyhoeddus” i fynd y tu hwnt i bob disgwyliad a chefais fy ysbrydoli am sut mae dyfodol digidol yng Nghymru yn cael ei drawsnewid. Fel Rheolwr Cyfathrebu CDPS ac yn gyfrifol am ein strategaeth ddigwyddiadau, cefais y fraint o weld drosof fy hun sut mae ein cymuned o arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cytuno â'r addewid o Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) i wella darpariaeth gwasanaethau hanfodol.
Roedd amcanion ein digwyddiad yn glir o'r dechrau: cynyddu dealltwriaeth y sector cyhoeddus o Ddeallusrwydd Artiffisial; annog mabwysiadu deallusrwydd artiffisial moesegol a chyfrifol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol; meithrin cydweithio a rhannu gwybodaeth. O fyfyrio ar y digwyddiad rwy'n falch o'r cynnydd a wnaethom ym mhob un o'r meysydd hyn, er fy mod hefyd yn awyddus i glywed adborth ein cydweithwyr ar ba mor dda y gwnaethom gyflawni'r nodau hyn.
Un foment oedd yn sefyll allan i mi oedd yr ymdeimlad o gydweithio gwirioneddol yn yr ystafell. Yn ei sylwadau agoriadol, sefydlodd ein Prif Weithredwr a'n cadeirydd, Harriet Green, y naws drwy ein hatgoffa “bod angen i ni ddod at ein gilydd fel cymuned - rhannu syniadau, profiadau a heriau - i ddatgloi gwir botensial deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus.” Roedd yn ein hatgoffa, yn y byd sydd ohoni, nad yw sefydliadau bellach yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i fod y cyntaf i fabwysiadu technolegau newydd. Yn lle hynny, mae ymdrech gref yn bodoli i weithio ar y cyd er lles pawb.

Cefais fy nharo gan yr hyn yr oedd gan Gareth Jones, Prif Swyddog Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin i'w ddweud. Yn ei ffordd ddigyffro a diffuant, dywedodd Gareth wrthym nad oes mwyach “unrhyw gystadleuaeth ymysg awdurdodau lleol” a bod y ffocws wedi symud tuag at rannu gwybodaeth ac arloesi ar y cyd. Roedd ei sylwadau yn atseinio'n ddwfn gyda llawer oedd yn yr ystafell. Dywedodd, “Mae gwir awydd am gydweithredu - yn hytrach na dim ond cystadlu yn erbyn ein gilydd, rydym yn ceisio adeiladu atebion ar y cyd sydd o fudd i bawb.” Mae ei ddull yn adlewyrchu ymrwymiad nid yn unig i ddatblygiad technolegol ond hefyd i sicrhau bod arloesedd digidol yn parhau i ganolbwyntio ar y defnyddiwr a'i fod yn gynaliadwy.
Fe wnaeth Chris Owen o Gyngor Castell-nedd Port Talbot ychwanegu at gyfoethogrwydd y drafodaeth trwy rannu stori a, lwyddiant “Magic Notes” - eu teclyn deallusrwydd artiffisial. Esboniodd Chris wrthym sut mae'r offeryn yn awtomeiddio'r broses o ysgrifennu nodiadau achos gweithwyr cymdeithasol, gan arbed dros wyth awr yr wythnos. “Nid yw'n ymwneud â chael gwared ar swyddi; mae'n ymwneud â gwella capasiti a galluogi ein staff rheng flaen i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig - cefnogi unigolion a theuluoedd,” meddai. Amlygodd ei fewnwelediadau un o'r heriau hanfodol y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu: yr angen i wneud mwy gyda llai. “Ar hyn o bryd, rydym ar flaen y gad - rydym yn amlwg yn gweld potensial a chyfleoedd, ond mae ein cyllidebau o dan bwysau eithriadol. Er y gallwn ddylunio achosion defnydd arloesol ac arbed arian, heb fuddsoddiad mwy sylweddol, araf fydd y cynnydd. Gallai cefnogaeth ar lefel genedlaethol helpu i gyflymu'r ymdrechion hyn" dywedodd yn agored.
Yna clywsom gan Dr. Jose Norambuena-Contreras. Roedd ei gyflwyniad ar asffalt sy'n selio tyllau yn y ffordd yn ddi-gymorth gyda chymorth AI. Fe wnaeth drawsnewid yn wirioneddol fy safbwynt i ar seilwaith. Nid wyf yn un sy’n cael fy nghyffroi gan drafodaethau ar ffyrdd na thyllau yn y ffordd, ond roedd cyflwyniad Jose yn rhyfeddol. Gan ddefnyddio cyfuniad o sborau planhigion ac olew coginio wedi'i ailgylchu, mae ei dîm yn datblygu deunydd a all selio tyllau mewn ffyrdd yn ddi-gymorth - gyda'r posibilrwydd o allu ymestyn 30% ar oes y ffordd. Dywedodd Jose, “Nid problem Cymru yn unig yw tyllau yn y ffordd - maent yn her ryngwladol sy'n gofyn am atebion arloesol.” Roedd yn amhosib peidio â rhyfeddu at y syniad y gallai rhywbeth mor gyffredin â thwll yn y ffordd ddod yn symbol o arloesi seilwaith cynaliadwy, blaengar. Ychwanegodd Jose yn ei ffordd ffraeth, unigryw ei hun, “Os na fyddwn yn dod o hyd i'r cyllid angenrheidiol, Duw a'n helpo ni.” Roedd hyn yn cyfleu brys a photensial y dechnoleg yn berffaith.

Yn ychwanegu cydbwysedd at y noson oedd Smera Jayadeva o Sefydliad Turing. Llwyddodd Smera i'n dychwelyd i realiti moesegol ac ymarferol AI. Atgoffodd Smera ni, er bod cyflymder a brwdfrydedd ar gyfer arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial yn gyffrous, mae'n rhaid i ni bob amser ystyried cenedlaethau'r dyfodol a goblygiadau moesegol ein penderfyniadau. Pwysleisiodd ei myfyrdodau meddylgar, gan adleisio ein hymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, “Rhaid i arloesedd digidol mewn gwasanaethau cyhoeddus fod yn foesegol, yn gynaliadwy, a bod yn un sydd pob amser yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.”

Wrth gwrs, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb ein cymuned anhygoel. Roedd gennym dros 60 o arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus o sefydliadau fel DVLA, Trafnidiaeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Perago a llawer mwy - oll wedi dod ynghyd i rannu syniadau, profiadau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol. Yr amrywiaeth hon o leisiau a safbwyntiau sy'n gwneud newid trawsnewidiol yn bosibl mewn gwirionedd.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cymryd camau breision tuag at ein hamcanion. Fe wnaethom gynyddu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddatrys problemau'r byd go iawn - o wella effeithlonrwydd gofal cymdeithasol i chwyldroi gwaith cynnal a chadw seilwaith - ac fe wnaethom sbarduno trafodaethau ar fabwysiadu deallusrwydd artiffisial moesegol a allai helpu i lunio ein polisïau yn y sector cyhoeddus am flynyddoedd i ddod. Ar ben hynny, roedd yr awyrgylch gydweithredol yn amlwg; er enghraifft, roedd sylw Gareth am y gostyngiad yn y cystadlu sydd ymhlith awdurdodau lleol yn ddangosydd cryf ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir - tuag at nodau cyffredin ac arloesi ar y cyd.
Nid oedd Dolenni Digidol yr wythnos diwethaf yn ymwneud ag arddangos cymwysiadau deallusrwydd artiffisial arloesol yn unig - roedd yn ymwneud ag adeiladu cymuned o arweinwyr sydd wedi ymrwymo i gyd-weithio, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac yn y pen draw, i wneud gwahaniaeth i sector cyhoeddus Cymru.
Yn olaf, byddwn wrth fy modd petaech yn rhannu eich myfyrdodau gyda mi: os mai ymuno â ni yn y cnawd neu ar-lein wnaethoch chi, ar ba foment wnaeth y “geiniog ddisgyn” i chi? Sut ydych chi'n credu y gwnaethom ni berfformio yn erbyn ein hamcanion o gynyddu dealltwriaeth, annog mabwysiadu moesegol, a meithrin cydweithredu? Gallwch rannu eich syniadau drwy lenwi ein harolwg adborth. Bydd eich adborth yn amhrisiadwy wrth i ni barhau i adeiladu rhagor o achosion busnes i gynnal mwy o ddigwyddiadau rhwydweithio wyneb yn wyneb ledled Cymru ar gyfer arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus.
Os na wnaethoch chi lwyddo i ymuno â ni y tro hwn, na phryderwch. Gallwch wylio recordiad llawn o'r digwyddiad ar ein sianel YouTube. Ond peidiwch â cholli allan ar y digwyddiad nesaf – byddwch y cyntaf i glywed am ddigwyddiad nesaf Dolenni Digidol yn eich ardal chi drwy ymuno â'n rhestr danysgrifio. Mae gweithiwr Cyfathrebu a Marchnata proffesiynol gwerth ei halen yn manteisio ar unrhyw gyfle i hyrwyddo'r digwyddiad nesaf!
Diolch unwaith eto i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad hwn.