Rydym yn eich gwahodd i ymuno â sesiwn hyfforddi arweinyddiaeth ar-lein ar hygyrchedd digidol, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer uwch arweinwyr. Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg strategol o pam mae hygyrchedd yn bwysig, gan gwmpasu'r safbwyntiau cyfreithiol, busnes a phrofiad y defnyddiwr.
Dan arweiniad hyfforddwr arbenigol a defnyddiwr darllenydd sgrin, bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r wybodaeth sydd ei hangen i yrru gwelliannau hygyrchedd o fewn eich sefydliad.
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Uwch arweinwyr, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, ac unrhyw un sy'n gyfrifol am strategaeth ddigidol a chydymffurfiaeth.
Bydd y sesiwn hon yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer creu gwasanaethau digidol cynhwysol, sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hygyrchedd, a gwella profiadau defnyddwyr i bawb.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg