Rydym wrth ein bodd y bydd y Ganolfan Hygyrchedd Digidol yn cyflwyno cwrs hyfforddi undydd (wedi’i ariannu gan CDPS) ar hygyrchedd digidol, sydd wedi cynllunio ar gyfer ymarferwyr digidol sy’n creu ac yn darparu gwasanaethau pen blaen hygyrch.
Trwy arddangosiadau ymarferol ac enghreifftiau o'r byd go iawn, byddwch yn ennill dealltwriaeth gadarn o egwyddorion hygyrchedd gwe, technolegau cynorthwyol, a sut i weithredu gofynion hygyrchedd wrth greu cynnwys.
Cynnwys y cwrs
- Cyflwyniad i hygyrchedd gwe a'i effaith ar ddefnyddwyr
- Sut mae technoleg gynorthwyol yn rhyngweithio â chynnwys digidol
- Arddangosiad fyw o ddarllenydd sgrin
Arferion gorau ar gyfer creu cynnwys hygyrch, gan gynnwys testun alt,penawdau ac ystyriaethau amlgyfrwng
Pwysigrwydd dylunio cynhwysol a chydymffurfio â chanllawiau WCAG
Mae'r hyfforddiant ymarferol hwn wedi'i gyfyngu i 10 cyfranogwr y sesiwn, felly argymhellir cofrestru cynnar.
Manylion y Cwrs:
- 11 Mawrth 2025 – Swyddfeydd TAC, Llandarcy, Castell-nedd
- 12 Mawrth 2025 – 16 Trinity Square, Llandudno
- 18 Mawrth 2025 – Marchnad Casnewydd, Casnewydd, De Cymru - Wedi'i archebu'n llawn
Mae pob sesiwn yn rhedeg rhwng 10:00 AM a 3:00 PM, pawb i gyrraedd erbyn 9:00 AM.
Mae'r hyfforddiant hwn yn ymarferol ac yn rhyngweithiol, gan sicrhau bod mynychwyr yn gadael gyda sgiliau ymarferol y gallant eu defnyddio ar unwaith.
I sicrhau eich lle, cofrestrwch isod erbyn 7 Mawrth 2025.
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.