Cofrestrwch i ymuno â llif byw LinkedIn o'n digwyddiad panel sy'n canolbwyntio ar hygyrchedd ar 29 Ionawr.
Mae Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) yn cynnal digwyddiad panel yng Nghaerdydd, gyda’r nos er mwyn i uwch arweinwyr y sector cyhoeddus archwilio pwnc hanfodol hygyrchedd digidol a’i effaith ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad hwn yn dilyn ein darganfyddiad diweddar i gyflwr hygyrchedd yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, a ddatgelodd heriau sylweddol gan gynnwys:
- diffyg atebolrwydd am fodloni rheoliadau hygyrchedd
- bylchau mewn sgiliau a hyfforddiant ar draws sefydliadau
- amwysedd ynghylch cyfrifoldebau arweinyddiaeth
- ni fydd hygyrchedd yn cael ei flaenoriaethu ar lefelau uwch
Bydd ein panel nodedig o siaradwyr yn pwysleisio pam y dylid ystyried hygyrchedd yn flaenoriaeth yn hytrach na dim ond tasg cydymffurfio.
Mae’r siarwdwyr gwadd yn cynnwys:
- Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Joanna Goodwin, Pennaeth Dylunio sy’n canolbwyntio ar y Defnyddiwr, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
- Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Jack Garfinkel, Dylunydd Cynnwys, Content Design London
Nodwch: trwy lenwi'r ffurflen isod rydych chi'n cofrestru i ymuno â llif byw y digwyddiad hwn trwy LinkedIn. Fel arall, gallwch gofrestru i ymuno â ni yn wyneb yn wyneb.